Ystyried caniatáu i Aelodau Cynulliad rannu eu swydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cynulliad wedi dweud y byddai'n bosib edrych ar newid y gyfraith etholiadol er mwyn caniatáu i Aelodau Cynulliad rannu swyddi.
Dyma'r tro cyntaf y byddai hyn yn digwydd yng ngwleidyddiaeth y DU, ac mae ymgyrchwyr yn credu y gallai'r cam ddenu mwy o fenywod a phobl anabl i wleidyddiaeth.
Yn ôl Comisiwn y Cynulliad gallai rhannu swyddi fod yn bosib o dan bwerau newydd.
Ond mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud nad oes hawl sefyll ymgeiswyr ar y cyd mewn unrhyw etholiadau yn y DU dan y ddeddf bresennol.
Deddf newydd
'Rhaid rhoi cyfle i'r anabl' medd Delwyn Evans o Bwyllgor Anabledd Cymru
Dywedodd Sarah Rees, o'r Blaid Cydraddoldeb i Fenywod, y dylai Cymru fod y wlad gyntaf i newid hyn, gyda'r Cynulliad yn annog rhannu swyddi mewn meysydd eraill drwy "arwain drwy esiampl".
Bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau dros etholiadau dan Ddeddf Cymru 2017, sy'n datganoli mwy o gyfrifoldebau o San Steffan i Gaerdydd.
Ar hyn o bryd 24 o'r 60 AC yn y Senedd sy'n fenywod, ond does dim gwybodaeth yn cael ei gasglu ar sawl AC sydd wedi eu cofrestru fel person anabl.
Cafodd ymgais yn 2015 gan ddau o ymgyrchwyr y Blaid Werdd i rannu swydd ar gyfer sedd seneddol ei wrthod gan y swyddog etholiadol, ac fe gafodd cais am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys ei atal.

Byddai Sarah Ress yn hoffi gweld Cymru yn arwain y ffordd
Pe bai'r ddau wedi eu hethol, y bwriad oedd rhannu'r swydd 50/50 a rhannu un bleidlais yn y Senedd.
Does dim achosion o rannu swyddi wedi digwydd chwaith yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon na Senedd yr Alban.
Unwaith y bydd Deddf Cymru 2017 yn dod i rym bydd gan weinidogion Cymru bwerau dros amseru etholiadau, pwy fydd yn cael pleidleisio, a threfn y system etholiadol.
Ond byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau, gan gynnwys i nifer yr ACau ar gyfer pob sedd a rhanbarth, gael ei gyflwyno drwy ddeddfwriaeth fyddai'n gorfod cael ei gymeradwyo gan ddau draean o'r aelodau.
Y bwriad yw sicrhau na fyddai pleidiau gwleidyddol yn gallu dylanwadu yn annheg ar y system etholiadol ar gyfer eu buddiannau eu hunain.
'Pam lai?'
Roedd Mrs Rees, sy'n fam i ddau, wedi sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau Cynulliad diwethaf.
Mae'n dweud y byddai wrth ei bodd gweld Cymru'n arloesi gyda'r cam, gyda gwledydd fel Awstralia, Seland Newydd a Gwlad yr Ia eisoes wedi cyflwyno camau i wneud y gweithle'n fwy hyblyg.
"Dwi'n meddwl bod gan Gymru'r grym, a dwi'n meddwl y byddai'n wych i ni symud ymlaen gydag ymgeiswyr sy'n rhannu swydd," meddai.
"Mae 'na bobl mewn swyddi pwerus iawn yn gallu rhannu swyddi, pam na allwn ni wneud hynny mewn llywodraeth?"

Mae angen ystyried y syniad yn "ofalus iawn", meddai Rhiannon Passmore AC
Ychwanegodd: "Os nad yw Llywodraeth Cymru'n gallu gwneud hynny eu hunain, pam ddylai unrhyw fusnes arall wneud?"
Yn ôl Rhiannon Passmore, AC Llafur Islwyn a mam i bedwar, byddai'n rhaid edrych ar y syniad o rannu swyddi yn "ofalus iawn" er mwyn sicrhau mai dyna oedd y peth gorau i etholwyr.
"Byddai'n gam mawr i'r cyhoedd dderbyn, dwi'n meddwl fod pobl wedi arfer cael aelod unigol," meddai.
"Ond os allwn ni ddechrau cyflwyno'r syniadau ar beth sy'n cael ei ystyried yn arfer da mewn rhannau eraill o fywyd cyhoeddus, gallai ond fod yn beth da dwi'n siŵr."
'Gwell dealltwriaeth'
Dywedodd prif weithredwr Anabledd Cymru, Rhian Davies bod "angen atebion mwy creadigol" er mwyn annog rhagor o bobl anabl i wleidyddiaeth.
"Byddai etholwyr yn elwa o gael pobl ddylanwadol sy'n gwneud penderfyniadau, sydd â gwell dealltwriaeth o sut y gall polisïau ddod o hyd i atebion mwy addas ar gyfer materion cymdeithasol," meddai.
"Yr unig rwystr go iawn yw goresgyn y gwrthwynebiadau i newid."
Ar y llaw arall mae Aelod Cynulliad UKIP, Caroline Jones yn dweud ei bod yn "lled gefnogol" o'r syniad.
"Mae'n syniad ble mae angen archwilio ymhellach i'r posibiliadau cyn ei weithredu."

Roedd Clare Phipps a Sarah Cope wedi methu yn eu hymgais i rannu swydd fel ymgeiswyr dros y Blaid Werdd
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad y byddai gan y Cynulliad yr hawl i weithredu ar "sawl mater ychwanegol" yn y dyfodol, gan gynnwys" y posibilrwydd o rannu swydd gan rywun sydd wedi ei ethol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod mewn trafodaethau gyda'r Cynulliad ar sut i wella cyfartaledd.
"Ry'n ni'n cymryd camau i adnabod a delio gyda rhwystrau... ac yn annog pwll mwy eang, amrywiol o bobl sy'n gwneud penderfyniadau i fywyd cyhoeddus a swyddi cyhoeddus."