Y grŵp cymunedol sy'n rhoi hyder a balchder i blant Maesgeirchen
- Cyhoeddwyd
Grŵp cymunedol, cynhwysol i blant ym Maesgeirchen, Bangor yw Maes-G ShowZone sy'n rhoi cyfle iddynt brofi'r celfyddydau perfformio. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2020 gan Eirian Williams Roberts, ei gwraig, Steffi a ffrind iddynt, Naomi.
Maesgeirchen yw'r drydedd stâd dai fwyaf yng Nghymru gyda thua 4,000 o bobl yn byw yno. Gurnos ym Merthyr Tudfil, a Pharc Caia yn Wrecsam yw'r ddwy stâd dai fwayf.

Eirian Williams Roberts, un o sylfaenwyr Maes-G ShowZone
Dywedodd Eirian mai'r hyn a'i hysgogodd i sefydlu'r grŵp oedd gallu cynnig lle i blant Maesgeirchen gymdeithasu yn ystod y cyfnod clo er mwyn lleihau'r ymdeimlad o "fod ar ben eu hunain."
Mae'r grŵp wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac maen nhw newydd berfformio'u pumed sioe yn Pontio. Eglurodd Eirian:
"Mae'n anodd egluro scale yr effaith mae ShowZone wedi'i gael ar Maesgeirchen. Mae gan y plant gymaint fwy o hyder rwan, maen nhw'n falch o'u hunain ac wedi tyfu fel pobl ifanc i fod yn rhan bwysig a mor bositif o'r gymuned. Mae'r plant yn cael eu 'nabod fel plant ShowZone yn y gymuned."

Plant Maes-G ShowZone yn ymarfer eu sioe ar lwyfan Pontio, Bangor
Bwriad y grŵp yw rhoi mynediad i blant i'r celfyddydau perfformio gan sicrhau nad yw cost yn rhwystr, nad yw eu sefyllfa yn y cartref yn rhwystr i gael dysgu dawnsio, actio, canu.
Eglurodd Eirian: "Mae'n rhoi cyfle iddyn nhw wneud rhywbeth na fydden nhw'n gallu'i wneud fel arall."
Un o'r pethau maen nhw'n ymfalchïo ynddo fel grŵp yw'r ffaith ei fod yn un cynhwysol.
"Mae dros 60% o'n plant ni'n neurodiverse. Mae gennym ni blant sydd efo anabledd corfforol, ac anableddau eraill. Mae gennym ni un ferch sydd efo problemau calon. Dydy hynny ddim yn barrier i be' 'dan ni'n wneud. 'Dan ni'n adaptio iddyn nhw, dydan ni'm yn disgwyl iddyn nhw adaptio i ni.
"Mae pob plentyn yn cael eu trin yr un fath, a drwy wneud hynny 'dan ni'n ffurfio teulu. 'Dan ni'n gymuned ein hunain ac mae 'na le i bawb yn Maes-G ShowZone."

Y sylfaenwyr yn cymryd amser i egluro trefn yr ymarfer i'r plant
Fis Awst, fe berfformiodd ShowZone eu pumed sioe, Our Big Variety Show 2025: Calling All The Monsters. Cafodd y cynhyrchiad ei lwyfannu mewn ffordd oedd yn rhoi'r profiad mwyaf proffesiynol bosib i'r plant. Mae ganddynt ystafell wisgo gyda'u henwau arnynt, gwisgoedd proffesiynol, amserlen dynn y mae'n rhaid cadw ati, yn ogystal â'r ymarferion technegol a'r ymarferion gwisg.

Eirian y Rheolwr Llwyfan
Mae Maes-G ShowZone yn un o'r grwpiau cymunedol sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Grŵp Cymunedol yng ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales.

Mae Cai wrth ei fodd yn mynd i ShowZone
Dywedodd Cai, un o'r bechgyn sy'n mynychu Maes-G ShowZone:
"Fysa ennill gwobr yn golygu gymaint i ni fel tîm. Mae ShowZone wedi gwneud gwahaniaeth mawr i hyder fi a fy ffrindiau. 'Dan ni gyd mor falch o fod yn rhan o rywbeth mor arbennig."

Nancy a Mollie, dwy chwaer sy'n elwa o ShowZone
Dywedodd Mollie, sy'n aelod o ShowZone ers blynyddoedd: "Byddai hyn yn golygu llawer oherwydd mae'n dangos dim ots lle 'dan ni'n dod rydan ni'n gallu cyflawni rhywbeth da os ydych chi'n rhoi'r ymdrech mewn. Mae ShowZone wedi dangos i mi bod hynny'n bosib."
Ychwanegodd Nancy, ei chwaer, y bydd bod yn rhan o'r gwobrau yn "dda i gael dangos pa mor ddewr a hyderus ydan ni, a dangos i bawb pa mor dda 'dan ni'n gallu bod."
Grŵp sy'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr yw Maes-G ShowZone, a dywedodd Eirian bod cael eu henwebu yn golygu'r byd: "Mae'n rhoi'r recognition i ni ein bod ni'n gwneud rhywbeth, a'n bod ni'n ei wneud o'n iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf