Mari Grug wedi cytuno i raglen ddogfen i roi 'hwb a hyder' i bobl â chanser

Mari GrugFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaglen ddogfen, Un dydd ar y tro, yn dilyn siwrne Mari Grug o fyw gyda chanser

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyflwynwraig Mari Grug wedi dweud mai bwriad rhaglen ddogfen - sy'n dilyn ei phrofiad o fyw gyda chanser - yw dangos bod "bywyd yn gallu cario ymlaen".

Mae Mari, sy'n wyneb cyfarwydd ar raglenni Heno a Prynhawn Da, wedi rhannu ei phrofiad o ganser y fron metastatic drwy bodlediad a chyfweliadau.

Ond dywedodd ei fod wedi meddwl dwywaith cyn gadael i gamerâu ei dilyn ar gyfer rhaglen ddogfen newydd.

"'Nathon nhw ofyn i fi wneud ar y dechrau, a 'na' oedd yr ateb. O'n i ddim mewn sefyllfa na yn y lle iawn i wneud e," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Ond wedyn, fel roedd amser yn mynd ymlaen, dwi wedi sylweddoli faint mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth."

Profiad 'gwych' gyrru tractor pinc

Dros y penwythnos bu Mari yn gyrru tractor pinc ar hyd heolydd cul cefn gwlad Sir Benfro - o Grymych i Faenclochog - er mwyn codi ymwybyddiaeth o ganser.

"Roedd hi'n fendigedig ac yn ddiwrnod i gofio," meddai.

Roedd yr orymdaith yn rhan o ddigwyddiad blynyddol Sioe Midway, gyda Mari yno eleni fel rhan o'i gwaith fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru.

"Mae'n braf achos mae'r teulu yng nghyfraith yn byw pum munud o [gwmni bws] Midway Motors, rhwng Hermon a Crymych, ac mae'n nhad yng nghyfraith wastad yn mynd ar y daith yma gyda'i dractor Dexta a'r Fordson Major.

"Wnaeth fy ngŵr i fynd ar y Dexta, ac roedd y plant hefyd yn cael eu towio ar trailer, ac wedyn roedd y ffaith bod fi'n cael mynd ar y tractor pinc hefyd drwy'r pentrefi yn wych."

Mari a'r teuluFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mari gyda'i theulu ar y tractor pinc ddydd Sadwrn

Mae Mari yng nghanol cwrs o gemotherapi ar hyn o bryd, ac roedd hi'n bryderus am gymryd rhan.

"Yr wythnos ddiwethaf, ges i fe [cemotherapi] ddydd Mawrth. Felly roeddwn i bach yn nerfus yn meddwl, a oeddwn i'n mynd i fod yn iawn i ddydd Sadwrn?

"Ond mae'n rhaid i fi ddweud, roedd mynd ar dractor heb cab drwy hewlydd Crymych, Mynachlogddu a Maenclochog yn yr heulwen wedi helpu.

"Felly, dwi'n meddwl pan fydd y dos nesaf yn dod, falle fydda i'n edrych ar y calendr i weld a oes rhywun ar daith dractor ac ishe i fi ymuno!"

Mari GrugFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae parhau i weithio wedi helpu Mari yn fawr: "Dwi'n teimlo freintiedig iawn i wneud be' fi'n ei wneud," meddai

Bydd y ffilmio nawr yn parhau gyda Mari ar gyfer rhaglen ddogfen, Un dydd ar y tro, sy'n cael ei darlledu ar S4C ddiwedd Hydref.

"Os mae'n mynd i allu helpu pobl, a chael yr ymateb dwi'n cael wrth bobl wrth siarad yn gyhoeddus amdano fe, o'n i'n meddwl mae'n rhaid i fi wneud e," meddai.

"Bwriad y rhaglen yw i ddangos fod bywyd yn gallu cario ymlaen er bod canser y fron metastatic yn wahanol efallai i ganser y fron sydd jyst mewn un man.

"[M]ae yna ddyddiau dwi ddim yn teimlo cystal os dwi'n cael triniaeth, yn gorfod cymryd hoe fach.

"Ond ar y cyfan, dwi jyst yn gobeithio y bydd y rhaglen yn gallu rhoi hwb a hyder i bobl falle sy'n cael diagnosis i feddwl, sym eisiau i fi fynd i gornel, sym eisiau i fi rhoi sgarff ar fy mhen, sym eisiau i fi beni gweithio, sym eisiau i fi gymryd blwyddyn mas neu beth bynnag.

"Dwi'n meddwl bod siwrne canser pawb mor wahanol, a falle gobeithio 'na beth fydd y rhaglen yn dangos."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.