Dyn, 36, wedi marw ar ôl disgyn wrth gerdded Crib Goch

Cafodd timau achub eu galw i'r digwyddiad am tua 11:30 fore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 36 oed wedi marw ar ôl disgyn wrth gerdded mynydd yn Eryri dros y penwythnos, meddai'r heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Llanberis eu galw yn dilyn adroddiadau fod person wedi disgyn oddi ar Crib Goch am tua 11:30 ddydd Sadwrn.
Er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr achub a'r Ambiwlans Awyr, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Dyw'r unigolyn ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod yn cydymdeimlo gyda theulu'r dyn yn ystod y cyfnod heriol yma.
Mae swyddogion yn ymchwilio i'r digwyddiad, ac yn galw ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.