Y BBC yn deall cwynion am raglen 'unochrog' Newsnight
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC yn dweud ei fod yn deall cwynion gwylwyr am raglen "unochrog" Newsnight, oedd â "dewis gwael o westeion".
Roedd y rhaglen yr wythnos diwethaf yn gofyn a oedd yr iaith Gymraeg yn "help neu'n rhwystr i'r wlad".
Yn sgil y rhaglen mae bron i 8,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ymchwiliad annibynnol i sut mae'r BBC yn portreadu'r iaith Gymraeg.
Mae'r BBC wedi dweud y byddai'r eitem wedi elwa o gael siaradwr Cymraeg "gyda gwybodaeth o'r maes dan sylw".
'Herio a thrafod'
Cafodd y rhaglen ei beirniadu ar ôl i'r cyflwynydd Evan Davies gyfweld yr awdur a'r colofnydd, Julian Ruck a golygydd gwefan cymunedol, Ruth Dawson - yr un o'r ddau yn siarad Cymraeg.
Yn ymateb i'r cwynion am y rhaglen, dywedodd y BBC bod Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith wedi cael cynnig i fynd ar y rhaglen, a bod "edifar gennym yr hepgoriad hwn".
"Rydym yn cydnabod y pryder am bennawd agoriadol y rhaglen," meddai'r BBC.
"Ein bwriad oedd herio a thrafod y polisi cyhoeddus sy'n cefnogi'r iaith, nid dilysrwydd na gwerth yr iaith ei hun, ac rydym yn cydnabod y gallai'r pennawd fod yn fwy amlwg ar y pwynt yma."
Dywedodd y BBC y byddai'n dychwelyd at y pwnc yn y dyfodol gyda'r hyn y mae'n gobeithio fydd "canlyniadau mwy calonogol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2017