Cwmni bws yn colli trwydded ar ôl ffugio dogfennau

  • Cyhoeddwyd
Y cwmni bws

Mae cwmni bysiau o Wynedd wedi colli ei drwydded ar ôl i ymchwiliad gan Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ddod i'r casgliad bod rhai o'u dogfennau cynnal a chadw wedi eu ffugio.

Fe benderfynodd y Comisiynydd Traffig, Nick Jones na fydd Express Motors, o Benygroes ger Caernarfon, yn gallu gweithredu fel cwmni bysiau o ddiwedd Rhagfyr.

Mae cyfarwyddwr y cwmni, Ian Wyn Jones wedi'i wahardd rhag cael trwydded i yrru bws am 12 mis am ffugio dogfennau cynnal a chadw, ac mae'r rheolwr trafnidiaeth, Kevin Wyn wedi ei wahardd rhag gwneud ei waith oni bai ei fod yn gwneud cwrs arbenigol o'r newydd ynglŷn â'i rôl.

Er mwyn i'r busnes teuluol barhau bydd yn rhaid i endid newydd gymryd rheolaeth o'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig, meddai'r Comisiynydd Traffig.

Mae Eric a Jean Wyn Jones hefyd wedi colli eu trwyddedau ar gyfer gwasanaeth ar wahân, oedd yn rhannu cyfleusterau gydag Express Motors.

Damwain bwsFfynhonnell y llun, @paulette59553
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad ar wahân yn parhau i ddigwyddiad yn Ffrainc lle cafodd 15 o bobl eu hanafu

Haf y llynedd fe wnaeth un o fysiau Express Motors wyro oddi ar draffordd yn Ffrainc gan anafu 15 o bobl ifanc.

Roedd y disgyblion o ysgol Bourneside yn Cheltenham ar eu ffordd i Dora Baltea yn Yr Eidal ar gyfer gwyliau.

Mae heddlu Ffrainc yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad, ond doedd yr ymchwiliad gan Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ddim yn gysylltiedig gyda'r gwrthdrawiad yma.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd ei bod yn ymwybodol o benderfyniad y Comisiynydd Traffig ac y bydd swyddogion yn cyfarfod gyda'r cwmni i drafod y ddarpariaeth maent yn gynnig i bobl Gwynedd "yn yr wythnosau nesaf".