Cyfeirio mwy o achosion o esgeuluso plant i'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusen wedi cyfeirio mwy o achosion o esgeulustod plant nag erioed i'r heddlu a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd NSPCC Cymru bod 804 o alwadau wedi'u pasio 'mlaen i'r awdurdodau yn 2016-17 - cynnydd o 80% mewn pum mlynedd.

Roedd y gyfradd fwyaf yn Nhorfaen a Rhondda Cynon Taf, gyda'r isaf yn Sir Ddinbych a Sir Fynwy.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cymryd "camau pwysig i amddiffyn a diogelu plant".

'Corfforol ac emosiynol'

Dywedodd NSPCC Cymru ei bod yn bwysig gwybod graddfa'r broblem fel y gallai teuluoedd dderbyn cefnogaeth.

Yn ôl rheolwr polisi a materion cyhoeddus NSPCC Cymru, Vivienne Laing, galwadau am esgeulustod yw'r rhai mwyaf cyffredin i'r llinell gymorth.

"Yn y gorffennol efallai bod pobl yn meddwl am esgeulustod fel rhywbeth corfforol," meddai.

"Ond yr hyn sy'n gallu achosi'r niwed mwyaf yw esgeulustod emosiynol - yr angen am ofal cynnes, cariadus, cefnogol - ac rwy'n credu bod pobl yn dod yn fwy ymwybodol o'r math yma o esgeulustod."

PlentynFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd yr elusen bod nifer cynyddol o'r rhai sy'n cysylltu â'r llinell gymorth yn dweud bod gan eu rhieni broblemau'n ymwneud â gor-yfed neu gyffuriau, gyda rhai ohonynt yn aml yn gadael eu plant heb ofal i fynd allan i yfed.

Yn ôl NSPCC Cymru mae angen mwy o gefnogaeth i rieni - yn enwedig rhai newydd - i'w helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn rhiant da.

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn "cyflwyno cyfrifoldebau newydd i adrodd am blant ac oedolion sy'n cael eu hamau o fod mewn perygl o ddioddef esgeulustod neu gamdriniaeth".