Tatŵ i ddelio â galar

  • Cyhoeddwyd

Fe gollodd y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips ei fam yn sydyn i ganser ddwy flynedd yn ôl, a bu farw ei dad pan oedd yn 23 oed. I'w helpu i ddelio â'r galar ac i gofio am ei rieni, mae wedi cael tatŵ sy'n golygu llawer iddo.

Bu'n siarad gyda Rebecca Hayes ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ddydd Mawrth, 22 Awst:

O'n i byth yn meddwl y bydden i'n cael tatŵ a fi wedi mynd am un mawr! Sleeve ma' nhw'n ei alw fe, dyma'r tatŵ cyntaf.

O'dd pobl yn meddwl mai rhywbeth bach fydde fe, jyst ar yr arddwrn neu rhywbeth, ond fi wedi dechre reit ar y top ar fy ysgwydd a mae bron â bod yn cyrraedd fy llaw. Mae dal tamed bach i orffen.

Mae 'na angel, croes, rhosyn, adar, dwy golomen, cloc - arwyddocâd y cloc yw'r amser ges i 'ngeni am chwarter i chwech y bore, a dwy law yn gweddïo.

Cofio fy rhieni

Mae'r holl beth yn ymwneud â choffáu fy rhieni. Wnes i golli Dad pan o'n i'n 23 oed a wedyn fe wnes i golli Mam tua dwy flynedd yn ôl yn sydyn trwy ganser. Ac o'n i'n meddwl mae angen 'neud rhywbeth i gofio amdanyn nhw, jyst i fi yn bersonol.

Mae pobl yn cofio am bethe fel 'na mewn ffyrdd gwahanol, ac o'n i'n meddwl beth am datŵ fydd wastad yna, yn golygu rhywbeth. Mae'n eitha' emosiynol, ond mae'n neis bod yr holl elfennau 'ma i gyd yna.

Mae'r ddwy law yn erfyn yn ymwneud â'r ffaith oedd Dad yn bregethwr, o'n i wastad yn gwylio fe yn y pulpud pan o'n i'n tyfu lan, a falle taw dyna pam fi wedi mynd mewn i gyflwyno, siarad yn gyhoeddus a bod ar lwyfan, felly ma' 'na elfennau crefyddol yna, ac elfennau ysbrydol, emosiynol hefyd. Mae e wedi helpu [gyda'r galar].

Disgrifiad,

Rhydian Bowen Phillips yn sgwrsio am ei datŵ a'r rhesymau tu nôl i'r gwaith celf

Mae'r symboliaeth yn golygu eu bod nhw wastad yna, yr angylion. Allai wastad edrych lawr ar y gwaith celf a ma' nhw fan 'na.

Fe wnes i drafod nôl a mlaen gyda'r artist Baz, trafod ble i gael [y tatŵ], o'n i'n meddwl cael rhywbeth bach tu fewn i'r fraich, a wedodd e 'paid â dechre fan 'na achos mae'n boenus iawn fan 'na'.

Mwy a mwy o'n ni'n trafod wnes i feddwl falle taw sleeve fydd hwn. O'n i byth yn meddwl y bydden i'n cael un tatŵ, heb sôn am lenwi'r fraich gyda'r un cynta'.

Fe wnaethon ni drafod y math o ddelweddau, y symboliaeth o'n i'n moyn, ac o'dd e'n ymchwilio i mewn i'r math o luniau ac ati, taflu syniadau nôl a mlaen a bookio y sesiwn cyntaf a wedyn doedd dim troi nôl!

'Mae'r boen off y scale!'

Rwy' wedi cael tri sesiwn o saith awr, ac mae un sesiwn ar ôl. Ti'n eistedd yna trwy'r dydd bron. O'n i ddim yn gwbod pa fath o boen o'dd e'n mynd i fod. O'dd rhai pobl yn disgrifio gwres, rhai'n dweud crafu, mae e fel crafu croen ar ôl llosgi yn yr haul. Mae'n bump mas o ddeg o boen cyson. Ond wedyn, ar y penelin, ar yr asgwrn, fi erio'd 'di teimlo mor boenus, off y scale!

Ma' 'na elfen o addiction bysen i'n dweud ar hyn o bryd, fi jyst yn aros ar y fraich 'ma, ond falle gaf i datŵ o bennill Cymraeg. Dim 'Meganomeg'! Ond 'Dwy law yn erfyn', ni wedi trafod hynny.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Rhydian Bowen Phillips (yr ail o'r dde) yn ei ddyddiau gyda'r band Mega

Cefnogaeth

O'n i'n poeni am roi e mas 'na ar Facebook a Twitter, achos o'n i ddim yn gwybod beth fydde pobl yn meddwl ond mae lot wedi dweud mae'n anhygoel, ma' nhw'n deall y rhesymau, mae lot yn canmol fi am y rhesymau, o'dd hwnna'n neis o'n i'n cael bach o gryfder gan hwnna 'fyd a chefnogaeth gan ffrindiau.

Tua 20 mlynedd nôl o'dd pobl yn poeni am roi swydd i rywun gyda tatŵ. Ma' amser 'di newid. Ma' nhw yn fwy amlwg, ma' lot fwy o bobl gyda tatŵs nawr a fi'n credu bod yr oes wedi newid. Dyw e ddim fel bo' fi wedi cael SpongeBob SquarePants ar fy mhen i yn Magaluf!

Ma' 'na reswm, ma' 'na emosiwn, ma' 'na deimladau tu nôl hwn.