Lle oeddwn i: 'Bake Off'
- Cyhoeddwyd
Wrth i gyfres newydd o'r rhaglen bobi Great British Bake Off gychwyn ar Channel 4 heno, mae Beca Lyne-Pirkis, a gymerodd ran yn y gyfres yn 2013, yn cofio'r diwrnod a newidodd ei bywyd:
Mis Chwefror oedd hi, pedair blynedd yn ôl yn 2013. Fi'n cofio roedd hi'n fore dydd Mawrth tua 10 neu 11 o'r gloch y bore. Un merch oedd 'da fi bryd 'ny ac oedd hi yn y feithrin ac oedd fy ngŵr yn y gwaith. O'n i adre ar ben fy hunan.
Ges i alwad wrth un o'r cynhyrchwyr ro'n i wedi bod yn delio gyda trwy'r broses clyweliadau. O'dd hi wedi cychwyn y sgwrs yn matter of fact iawn, o'n i'n meddwl bod hi'n mynd i ddweud fy mod i ddim wedi cael lle yn y gyfres. Wedyn wnaeth hi ddweud "you're going to be one of the thirteen bakers."
O'n i jyst methu credu. Wnes i drio cael gafael ar fy ngŵr a fy rhieni, ond doedden nhw ddim yn ateb y ffôn. O'n i yn y tŷ ar fy mhen fy hun yng nghanol y gegin yn edrych ar y cypyrddau, yn trio edrych am rywbeth i yfed i ddathlu. Ond o'n i angen mynd i nôl Mari o'r feithrin amser cinio, felly ges i goffi gwyn i ddathlu!
O'dd e'n ddiwrnod anhygoel.
Rwy'n cofio'r penwythnos cyntaf o ffilmio. Ar y dydd Gwener roedd pawb yn cwrdd yn y gwesty yn Bryste. Aeth y bakers i gyd a rhai o'r criw allan y noson honno, ac o'dd hwnna'n noson swrreal a gweld rhai wynebau o'n i 'di gweld yn y clyweliadau.
Ar y bore dydd Sadwrn o'dd bws yn ein cludo ni gyd o'r gwesty i'r babell. O'n ni'n cyrraedd yna erbyn 7 y bore, roedd yn ddiwrnod hir, a fi'n cofio cael ein gyrru lan y driveway hir a gweld y tent. Mae gen i lun ohoni gyda'r haul yn codi tu ôl, odd e'n atmospheric iawn, a dyna pryd wnaeth y nerfau gicio mewn.
Cacennau yw'r dasg ar y penwythnos cyntaf wastad ac fe wnes i Grapefruit Drizzle Cake. Fi'n cofio dweud wrth Paul [Hollywood] a Mary [Berry] (y beirniaid) beth o'n i'n neud ac fe wnaeth Paul gyfadde' bod e'n casáu grapefruit. O'n i'n poeni am y peth ond wedyn pan ddaeth e i flasu'r gacen, ac ar ôl oedi am yn hir dywedodd, "annoyingly, I really like it!"
Mae'r alwad ffôn 'na bedair blynedd yn ôl, wedi newid fy mywyd yn llwyr.