TGAU: Opsiynau amgen ar gael i fyfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Jaimie Warburton a Julie JamesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jaimie Warburton o Gaerffili yn falch ei fod wedi manteisio ar gynllun prentisiaeth ar ôl iddo adael yr ysgol

Gyda miloedd o bobl ifanc yn derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i dynnu sylw at opsiynau amgen o ran gyrfa.

Mae'r Gweinidog ar gyfer Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James wedi pwysleisio pwysigrwydd a manteision prentisiaethau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau o lefelau 2 i lefelau uwch ac un sydd wedi manteisio o'r cynllun yw Jamie Warburton, 28 oed o Gaerffili.

Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, roedd Jamie yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i swydd yn y maes Technoleg Gwybodaeth (TG) gan nad oedd ganddo gymwysterau ffurfiol ym maes datblygu gwefannau na'r profiad gwaith perthnasol.

'Hollol wych'

Daeth ar draws y cyfle i ddilyn prentisiaeth Lefel 4 mewn Datblygu Pen Blaen Gwefannau gyda chwmni IT Pie ym Mhenarth.

Blwyddyn yn ddiweddarach mae Jamie ar fin cwblhau ei brentisiaeth a bydd yn cymhwyso'n llawn fel datblygwr gwefannau.

Wrth sôn pam mai prentisiaeth oedd y llwybr gorau iddo fe, dywedodd Jaimie fod y cwrs wedi bod yn "hollol wych".

"Dwi wedi cael cymaint o gefnogaeth ac arweiniad gan fy nghydweithwyr.

"Mae wedi bod yn wych cael rhoi popeth dwi'n ei ddysgu yn y coleg ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn bob dydd.

"Fe fyddwn i'n bendant yn argymell dilyn prentisiaeth. Mae wedi bod yn ffordd ardderchog o gael profiad ymarferol yn ogystal â meithrin y sgiliau ac ennill y cymwysterau perthnasol.

"I fi, mae prentisiaeth yn ffordd gyflymach o gael y swydd rydych chi ei heisiau."

'Gyrfa lewyrchus'

Ychwanegodd Julie James: "Mae Jaimie yn un enghraifft o rywun sydd mewn gyrfa lewyrchus ar ôl dilyn prentisiaeth.

"Mae'n dangos pa mor werthfawr yw profiad ymarferol a sut mae'n gallu cynnig y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen er mwyn cael gyrfa lewyrchus, sy'n dod â boddhad.

"Mae prentisiaethau yn fan cychwyn i yrfa gyffrous ac maen nhw'n addas i unrhyw un o unrhyw oedran," meddai.

I gael gwybod mwy am fod yn brentis, ewch i gyrfacymru.com a dilyn y ddolen brentisiaethau, dolen allanol