Diffibriliwr clyfar newydd ar gyfer ymwelwyr Y Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Hafod Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y diffibriliwr wedi'i osod yng Nghanolfan Ymwelwyr Hafod Eryri.

Mae diffibriliwr newydd wedi'i osod ar fynydd uchaf Cymru gyda'r nod o achub mwy o fywydau.

Gyda 400,000 o bobl yn ymweld â chopa'r Wyddfa yn flynyddol, bydd diffibriliwr newydd ar gael i ymateb i unrhyw argyfwng.

Mae'r diffibriliwr clyfar math ZOLL AED3 yn galluogi i aelodau o'r cyhoedd ddechrau'r gadwyn achub cyn i aelod o'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Bydd y diffibriliwr wedi'i osod yng Nghanolfan Ymwelwyr Hafod Eryri.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Diffibriliwr AED sydd wedi'i osod yn Hafod Eryri

Yn y gorffennol mae gwirfoddolwr o'r gwasanaeth Ambiwlans wedi gorfod teithio i Hafod Eryri er mwyn profi bod y teclyn yn gweithio, ond bellach bydd modd gwneud hynny drwy ddefnyddio ffon symudol 24 awr y dydd.

Mae sefydliadau gwahanol wedi gweithio gyda'i gilydd er mwyn casglu arian i brynu'r diffibriliwr newydd.

'Newyddion da'

Mae Tomos Hughes yn Ymatebydd Cymunedol yn Uwchaled ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans ac fe deithiodd i ben yr Wyddfa er mwyn gosod y diffibriliwr newydd yn ei le.

"Mae'n newyddion da bod diffibriliwr o safon ar gael yn un o'r llefydd mwy anghysbell," meddai.

Ychwanegodd Mr Hughes ei fod wedi bod fyny'r Wyddfa dair gwaith eleni er mwyn profi'r hen ddiffibriliwr "ond bydd modd gwneud hynny bellach drwy ddefnyddio ffon symudol," meddai.