Agweddau yn 'atal merched' rhag mynd i fyd adeiladu

  • Cyhoeddwyd
BricsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd hyfforddi CITB wedi dechrau ymgyrch i annog merched i weithio yn y byd adeiladu

Mae meddylfryd hen ffasiwn yn atal merched rhag dewis prentisiaethau yn y diwydiant adeiladu, yn ôl bwrdd hyfforddi.

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dim ond un o bob saith sy'n gweithio yn y maes sy'n ferched.

Yn ôl Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru (CITB), mae meddylfryd bod y diwydiant ond yn "addas ar gyfer dynion" yn dal i fodoli.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod annog merched i ddilyn gyrfa yn y byd yma yn un o'u "blaenoriaethau".

'Chwalu'r myth'

Bydd tua 20,000 o swyddi yn cael eu creu yn y diwydiant adeiladu yn y pum mlynedd nesaf, meddai Donna Griffiths, un o reolwyr y CITB.

Mae hi'n dweud bod hynny'n golygu bod rŵan yn amser delfrydol i gael hyfforddiant.

"Mae 'na dal y meddylfryd yma bod y diwydiant adeiladu ddim ond yn addas ar gyfer dynion," meddai.

"Mi ydyn ni eisiau chwalu'r myth yma. Gyda mwy na 150 o swyddi gwahanol o fewn y diwydiant i ddewis ohonyn nhw, mae yna rôl i bawb o unrhyw gefndir a diddordeb."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond un ymhob saith o'r gweithlu sydd yn ferched

Am fod 'na brinder merched, mae CITB wedi lansio ymgyrch i ysbrydoli pobl i feddwl am yrfa yn y maes.

Fe ddechreuodd Jessica Richards, 27, ei phrentisiaeth gwaith coed bum mlynedd yn ôl ar ôl gweld rhywun yn gwneud gwaith ar y nenfwd yn y gampfa lle'r oedd hi'n gweithio.

Mae wedi defnyddio ei sgiliau i adeiladu ward mamolaeth yn Uganda ond hefyd yn gweithio fel therapydd chwaraeon.

"Wnes i gymryd risg a bod yn hunangyflogedig ym mis Gorffennaf," meddai.

"Mae 'na ddigon o waith coed ar y funud ac fe wnaiff hi brysuro yn y gaeaf. Os ydych chi'n hoffi cael eich dwylo'n fudr ac yn dda gyda'ch dwylo, fe fyddai gwaith coed yn opsiwn da."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu ymgyrch newydd y CITB a'u bod yn gwneud gwaith yn y maes yma gan gynnwys digwyddiadau gan Chwarae Teg a chynllun mewn ysgolion i geisio cael gwared â stereoteipiau mewn rhai sectorau.