Dwy flynedd heb rent i Stiwdio Pinewood yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Pinewood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stiwdio Pinewood Cymru yng Ngwynllŵg

Mae wedi dod i'r amlwg bod un o gwmnïau ffilm mwyaf adnabyddus y byd wedi cael rhentu safle gwerth £5m gan Lywodraeth Cymru am ddim am ddwy flynedd.

Cafodd Pinewood Studio Wales ei agor yn 2015, ond wnaethon nhw ddim dechrau talu am y les tan Ionawr 2017.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y llywodraeth yn "gorliwio" effaith economaidd Pinewood i Gymru.

Mae ystadegau'n awgrymu bod llai na 50 o swyddi wedi'u creu ar y safle ger Caerdydd.

Ond mae Llywodraeth Cymru - wnaeth glustnodi £30m ar gyfer prosiectau gyda Pinewood - yn dweud eu bod yn falch o'u buddsoddiad.

'Cyson ag arferion y farchnad'

Fe ehangodd Pinewood i safle'r hen Ganolfan Ynni yng Ngwynllŵg yn 2015, gyda ffilmiau a chyfresi fel Sherlock yn defnyddio'r lle.

Mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates bod cyfnod heb rent yn rhan o les 15 mlynedd Pinewood am y safle - rhywbeth sydd, meddai, yn "gyson ag arferion y farchnad".

Disgrifiad o’r llun,

Ymysg y ffilmiau sydd wedi cael eu recordio yng Nghaerdydd mae Journey's End

Er mai ar 12 Ionawr 2015 ddechreuodd y les, ar 12 Ionawr 2017 ddechreuodd y cwmni dalu rhent.

Dywedodd Mr Skates hefyd yn ei ateb i ymholiad Mr Davies o fis Gorffennaf bod y llywodraeth wedi derbyn £251,288 mewn rhent hyd yn hyn.

Fe ddywedodd hefyd mai'r rhent blynyddol am y safle yw £546,876, a bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r lle am £5.24m ym mis Chwefror 2014.

'Dim diddordeb cael arian yn ôl'

Pan ddaeth y cyhoeddiad yn 2014 y byddai Pinewood yn dod i Gaerdydd, roedd rhai'n amcangyfrif y gallai greu 2,000 o swyddi a gwariant o £90m gyda busnesau o Gymru.

Mewn llythyr ym mis Mawrth, dywedodd Mr Skates bod tri pherson yn cael eu cyflogi'n llawn amser i ofalu am y safle, bod 16 o denantiaid yn cyflogi 34 o bobl eraill yn llawn amser a bod 12 swydd hyfforddi hefyd yn cael eu cynnal.

Yn ôl y llythyr, gafodd ei yrru at y Ceidwadwr Suzy Davies AC, fe gafodd £8.5m ei nodi fel "gwariant cynhyrchu Cymreig".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Suzy Davies AC, cafodd potensial y safle ei "orliwio'n ddifrifol"

'Nôl yn 2014, fe alwodd y Ceidwadwyr am sicrwydd na fyddai Pinewood yn rhoi'r gorau i'w menter yng Nghymru, yn dilyn adroddiadau mai am bum mlynedd fydden nhw'n rhentu'r safle.

Dywedodd Ms Davies y tro hwn bod gan Lywodraeth Cymru "ychydig neu ddim diddordeb cael arian yn ôl o fuddsoddiad y cyhoedd".

Ychwanegodd ei bod hi'n "bur amlwg bod potensial honedig y fargen hon wedi cael ei orliwio'n ddifrifol" ac nad dyma'r "ffon hud" i wella'r economi.

'Budd go iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cael Pinewood yng Nghymru wedi bod yn "amhrisiadwy i'n diwydiant ffilm a theledu ac wedi helpu i godi Cymru'n lleoliad cynhyrchu o'r radd flaenaf".

Ychwanegodd bod gwahanol stiwdios cynhyrchu, gan gynnwys Pinewood, wedi gwario mwy na £113m yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf, gan gyfrannu at greu "mwy na 3,500 o swyddi llawn amser".

Dywedodd bod "budd go iawn" i'r fargen gyda Pinewood a bod eu ffilm ddiweddar, Their Finest "eisoes wedi ennill $8.8m (£6.8m) ar draws y byd, sy'n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi adennill eu buddsoddiad yn llawn", gan ychwanegu y byddan nhw'n cael cyfran arall o'r elw yn y dyfodol, fydd yn cael ei "ail-fuddsoddi yn sector greadigol Cymru".

Doedd Pinewood ddim am wneud sylw.