Rhieni Môn yn ddig am gynnydd yng nghost bws ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni yn ardal Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi dod at ei gilydd i wrthwynebu penderfyniad i gynyddu'r gost o gludo'u plant i Ysgol Uwchradd David Hughes ym Mhorthaethwy.
Gan fod pentref Llanfairpwll lai na thair milltir o'r ysgol, does dim cyfrifoldeb statudol ar Gyngor Ynys Môn i ddarparu gwasanaeth bysiau am ddim.
Ond yn draddodiadol mae'r cyngor wedi trefnu bysiau, gan ofyn i'r rhieni am gyfraniad.
Mae cynghorau Gwynedd a Chonwy yn caniatáu i blant sy'n byw o fewn tair milltir deithio ar fysiau ysgol cyn belled bod seddi gwag ar y bysiau, ac yn codi tâl am wneud hynny.
Yng Ngwynedd, £90 y flwyddyn yw'r gost a £210 yng Nghonwy, ac mae Cyngor Môn wedi penderfynu mai £108 fydd y gost i blant Llanfairpwll.
Dywedodd y rhieni bod y gost eisoes wedi codi o £70 i £90, ac nad yw'r ffordd yn ddiogel i blant gerdded i'r ysgol arni.
Mae'r grŵp yn gobeithio cael cyfarfod â'r cyngor i leisio eu pryderon, gyda'r gobaith o leihau'r gost neu sicrhau ffordd fwy hyblyg o dalu.
Dywedodd y cynghorydd Meirion Jones, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet cyngor Ynys Môn: "'Da ni'n dallt pam bod nhw'n cwyno, am fod y swm wedi mynd i fyny o'r llynedd.
"O'dd y penderfyniad wedi ei wneud ym mis Chwefror eleni i godi'r swm, oherwydd bod y swm blaenorol yn syrthio yn ôl o ran gwir gost y gwasanaeth.
"Be' mae'r cyngor sir yn trio 'neud ydy codi swm sydd yn deg i rieni, ond hefyd sydd yn deg i drethdalwyr eraill y sir.
"Mae swyddogion yn dweud ei bod hi'n saff i gerdded y llwybr, ond dwi yn derbyn bod isio cadw golwg ar fater fel yna."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017