Magi Ann yn ennill £5000
- Cyhoeddwyd
Mae'r cymeriad lliwgar Magi Ann wedi helpu Menter Iaith Fflint a Wrecsam i ennill gwobr Prosiect Addysg Gorau'r Loteri.
Roedd y Fenter yn cystadlu yn y rownd derfynol yn erbyn chwe phrosiect arall trwy'r DU am y wobr flynyddol. Ers misoedd bu'r prosiectau yn ymgyrchu am bledleisiau'r cyhoedd.
Mae Magi Ann yn gyfres o lyfrau cyfrwng Cymraeg i blant, ond yr hyn sy'n gwneud y straeon yn unigryw ydy bod yna chwech o apiau hefyd sy'n helpu rhieni a phlant i ddarllen a mwynhau'r Gymraeg gyda'i gilydd.
Mae'r apiau yn dangos straeon syml Magi Ann a'i ffrindiau mewn lliw ac animeiddiad. Erbyn hyn maen nhw wedi'u lawrlwytho dros 100,000 o weithiau.
Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:
"Mae'r wobr yn deyrnged i'r gymuned leol sydd wedi ein cefnogi ac wedi bod yn gymorth wrth wireddu'r prosiect.
"Mae hefyd yn braf, yn sgil yr holl sylw negyddol sydd wedi bod yn ddiweddar am y Gymraeg, y bydd y DU gyfan yn mynd i weld a chlywed am agwedd bositif o'r Gymraeg a bod yr iath yn fwy na 'hobi'."
Cafodd y cyhoeddiad am y wobr ei wneud p'nawn Mawrth 29 Awst yn Wrecsam gan y gantores Cerys Matthews.
Bydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam nawr yn derbyn gwobr o £5000 gan Gronfa Achosion Da'r Loteri.
"Gan fod y prosiect gwreiddiol wedi codi o syniad gan y gymuned, mi fydd yr ymgynghori gyda'r gymuned am sut i wario'r wobr yn dechrau fory!" meddai Gill Stephen.