Angen i'r Cymry Cymraeg fagu hyder a 'mynd amdani' - meddyg blaenllaw

Mae Dr Brython Hywel yn bennaeth adran mewn ysbyty niwroleg arbenigol
- Cyhoeddwyd
Mae niwrolegydd yn ysbyty niwrolegol arbenigol y DU wedi dweud bod y Cymry Cymraeg yn dioddef o ddiffyg hyder a bod angen iddyn nhw "fynd amdani".
Dywedodd Dr Brython Hywel ei fod o wedi profi hyn ei hun pan oedd o'n astudio meddygaeth ac fel meddyg iau.
Ac yntau bellach yn bennaeth adran niowroffisiolegol yng Nghanolfan Walton, Lerpwl, mae'n dweud na ddylai hyn ddal disgyblion disglair o Gymru yn ôl.
"Dwi'n meddwl bod 'na ddiffyg hyder, a dyna be' mae addysg bonedd yn rhoi i rywun - yr hyder a dweud wrthyn nhw 'chi ydi'r gorau, mae isio mynd amdani'," meddai.
"Mae isio ni ddweud wrth y Cymry Cymraeg galluog i fynd amdani, i fynd yn feddygon, i fynd yn beirianyddion a phethau fel yna er mwyn gwella'n lot ni."

Mae Canolfan Walton, yn Lerpwl, yn arloesi yn y maes niwrolegol
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd ei fod wedi sylwi hyn am y tro cyntaf pan aeth i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2003.
Dyna pryd wnaeth o gyfarfod myfyrwyr di-Gymraeg oedd wedi bod mewn ysgolion bonedd oedd yn fwy hyderus nag oedd o.
Ond wrth iddo gael canlyniadau da yn ei arholiadau fe gynyddodd ei hyder ac erbyn yr haf, fo oedd y myfyriwr gorau yn ei flwyddyn.
"Roedd rhai o'r bobl ysgolion bonedd wedyn yn brolio i'n ffrindiau i fod nhw'n ffrindiau da efo fi a do'n i prin wedi siarad efo nhw - who you know math o beth 'de - ond yn sicr mae 'na ddiffyg hyder ymysg y Cymry," meddai.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n Wrecsam fatha meddyg iau ac o'n i'n y cantîn lle'r oedd y doctoriaid ac o'n i'n cael sgwrs efo meddygon iau eraill a nesi weld bod coffi fy mos i wedi gorffen. Neshi godi i fyny a thywallt coffi iddo fo yng nghanol sgwrs.
"Roedd hynny'n typical peth Cymraeg i wneud - dangos lot o barch at y bosys. Dwi ddim yn dweud bod hynny'n beth drwg ond dwi'n meddwl bod 'na ddiffyg hyder."
Y meddyg teulu aeth 'ati ar ei liwt ei hun' yn ystod Covid-19
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023
'Colli meddygon gwych drwy fynnu graddau A ac A*'
- Cyhoeddwyd13 Ebrill
Beti George: ‘Mae’r rhaglen yn golygu popeth i fi’
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024
Aeth Dr Hywel, gafodd ei fagu yn Llangernyw, Dyffryn Conwy ond sydd bellach yn byw yn Llanrug, yn ei flaen i weithio yn ysbytai gogledd Cymru cyn arbenigo mewn niwroleg.
Fe gafodd swydd fel Niwrolegydd Ymgynghorol a Niwroffisiolegydd Clinigol yn 2019 ac mae o nawr yn bennaeth yr adran niwroffisiolegol yn Walton, canolfan arbenigol y GIG ar gyfer niwroleg, ar lannau Mersi.
Mae'n gweithio yn y ganolfan am dri diwrnod yr wythnos ac yn ysbytai gogledd Cymru weddill yr wythnos.
Yn ogystal â gwaith clinigol, mae o'n cymryd rhan mewn profion arloesol ar nerfau'r ymennydd i geisio helpu cleifion gyda'r cyflwr epilepsi.
Gallwch wrando ar gyfweliad llawn gyda Dr Brython Hywel ar Beti a'i Phobol am 18:00 ddydd Sul 23 Tachwedd ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.