Llai o Gymry yn mynd i brifysgolion Grŵp Russell
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y myfyrwyr o Gymru sydd yn mynd i astudio yn rhai o brifysgolion mwyaf nodedig y DU wedi gostwng bron i 10% mewn tair blynedd.
Dangosodd ffigyrau o'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) fod 6,260 o Gymry wedi dechrau cyrsiau israddedig ym mhrifysgolion Grŵp Russell yn 2015/16, o'i gymharu â 6,900 yn 2012/13.
Yn ôl un ymgynghorydd addysg byddai'n "biti" petai pobl ifanc o Gymru yn "colli allan ar y manteision" sydd yn dod o astudio yn y prifysgolion gorau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisiau "codi dyheadau a lefelau cyflawni disgyblion ysgol Cymru er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial academaidd".
'Angen anogaeth'
Mae Grŵp Russell yn gasgliad o 24 o brifysgolion, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, sy'n canolbwyntio ar ymchwil ac yn cael eu hystyried ymysg y goreuon yn y wlad.
Mae'r gostyngiad yn nifer y Cymry sy'n dechrau cyrsiau yno yn gyson â'r gostyngiad bychan yn y niferoedd sydd wedi bod yn mynd i'r brifysgol yn gyffredinol yn ddiweddar.
Ond er y patrwm hwnnw mae Grŵp Russell wedi parhau i ddenu mwy o fyfyrwyr o'r DU, gyda'r nifer yn codi o 103,225 yn 2012/13 i 111,555 erbyn 2015/16.
Dywedodd Robin Hughes, ymgynghorydd addysg a chyn-gyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, fod "cyfuniad o resymau" posib dros y gostyngiad yn y niferoedd o Gymru oedd yn mynd i astudio yn y prifysgolion amlycaf.
"Tydi'r rhan fwyaf o brifysgolion Russell Group heb ostwng eu disgwyliadau o ran graddau a natur y pynciau maen nhw'n disgwyl gan fyfyrwyr," meddai.
"Maen nhw'n dal i dueddu dewis a dethol, lle mae eraill yn gorfod recriwtio, ac felly'n gallu bod yn fwy hyblyg yn y graddau a phynciau maen nhw'n gofyn amdano."
Ychwanegodd y gallai'r ffaith mai dim ond un o'r prifysgolion hynny sydd yng Nghymru - Prifysgol Caerdydd - fod yn ffactor hefyd.
"Mae myfyrwyr hefyd yn gwneud penderfyniadau ar sail pethau bara menyn... 'lle allai fforddio?' Os ti'n mynd i reoli dy gostau ti ddim yn mynd i fynd yn bell," meddai.
Yr her, meddai, yw perswadio darpar fyfyrwyr "beth yn union ydy gwerth yr addysg a'r radd yma".
"Yn sicr mae o'n biti os oes gennym ni fyfyrwyr sy'n ddigon abl, ac efallai'n colli allan ar y manteision sydd yn dod o astudio yn y prifysgolion Russell Group, manteision gyrfaol, ansawdd ag ati.
"Mae'n rhaid ystyried o le maen nhw'n cael yr anogaeth a'r wybodaeth, be' sy'n sail i'r penderfyniadau - mae 'na waith caled i'w wneud o ran trafodaethau gyrfaol.
"Mae rhyw fath o awgrym eleni fod o'n dechrau gweithio [o ran canlyniadau Lefel A], ond mae dal yn her i godi ansawdd yr addysgu, a sicrhau fod y cyrhaeddiant a'r llwyddiant ar ei uchaf."
Rhwydwaith Seren
Yn 2015 cafodd Rhwydwaith Seren ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y disgyblion o Gymru oedd yn gwneud cais i'r prifysgolion mwyaf blaenllaw.
Y bwriad yn ôl y llywodraeth yw ceisio sicrhau fod y disgyblion disgleiriaf yn cael y gefnogaeth angenrheidiol er mwyn gallu ymgeisio ar gyfer y prifysgolion hynny.
Un wnaeth fanteisio ar y cynllun eleni oedd Megan Howells, 18, o Goleg y Cymoedd, gafodd ei derbyn i Rydychen i astudio'r Gyfraith ar ôl cael dwy A* a dwy A yn ei harholiadau Safon Uwch.
"Pan ddechreuais i ym Mlwyddyn 12 roeddwn i'n meddwl am lefydd fel Bryste gan fy mod i'n meddwl fod llefydd fel Rhydychen a Chaergrawnt y tu hwnt i fy nghyrraedd i, ac na fydden i ddigon da i gael mewn," meddai.
"Ond yn ystod y flwyddyn nes i deimlo'n fwyfwy hyderus, a phan ges i dair A a B yn fy arholiadau AS nes i ddechrau credu y gallen i anelu am Oxbridge."
Ychwanegodd: "Fy nghyngor i unrhyw fyfyrwyr o Gymru sydd yn meddwl ymgeisio am un o'r prifysgolion blaenllaw yw 'ewch amdano fe'.
"Hyd yn oed os yw rhywun yn meddwl nad ydyn nhw'n ddigon da neu na chawn nhw le, does dim i'w golli, a fyddwch chi byth yn gwybod oni bai eich bod chi'n trio."
Mae dros 2,000 o fyfyrwyr bellach yn rhan o Rwydwaith Seren, a dywedodd y llywodraeth fod ymchwil diweddar wedi awgrymu fod 95% o fyfyrwyr y cynllun wedi neu'n disgwyl gwneud cais i brifysgol sy'n rhan o Grŵp Russell.
"Mae codi dyheadau a lefelau cyflawni disgyblion ysgol Cymru er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial academaidd yn flaenoriaeth barhaus i Lywodraeth Cymru, ac mae Rhwydwaith Seren yn chwarae rôl hanfodol tuag at wireddu'r uchelgais hwn," meddai llefarydd.
'Gwella'u siawns'
Dywedodd Sarah Stevens, pennaeth polisi Grŵp Russell: "Mae prifysgolion Grŵp Russell wedi ymrwymo i ddenu myfyrwyr o bob rhan o'r DU sydd â'r potensial i lwyddo, dim ots o le maen nhw'n dod neu beth yw eu cefndir teuluol.
"Mae nifer o'n haelodau yn gweithio'n agos â chynllun Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru, sydd yn ceisio cysylltu myfyrwyr chweched dosbarth disglair o Gymru gyda phrifysgolion blaenllaw'r DU a gwella'u siawns o wneud cais llwyddiannus."
Dywedodd Sian Gwenllian AC ar ran Plaid Cymru: "Ar hyn o bryd mae gormod o bobl ifanc yn gadael Cymru i astudio a gweithio sydd yn golygu fod ein cymunedau'n wynebu colli sgiliau a thalentau.
"Rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru wneud mwy i ysgogi pobl ifanc i ddychwelyd i Gymru os ydynt wedi astudio mewn man arall.
"Mae angen i'r llywodraeth hefyd sicrhau fod y sector addysg uwch wedi ei ariannu'n ddigonol fel y gall mwy o sefydliadau yma yng Nghymru fod yn aelodau o Grŵp Russell."
Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Darren Millar AC: "Rydym angen cwricwlwm ysgolion sydd yn cynorthwyo myfyrwyr i gyrraedd eu potensial a meithrin ein myfyrwyr mwyaf disglair, fel bod modd iddynt fynd ymlaen i gystadlu gyda'r goreuon yn ein prifysgolion elît.
"Os ydym yn gadael i'n hunain ddisgyn tu ôl i eraill yna fe fydd yn cael goblygiadau difrifol i'n heconomi yn ddiweddarach. Mae i fyny i Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gydag ysgolion a cholegau i ddadwneud y tueddiad gwael yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2017
- Cyhoeddwyd17 Awst 2016