Aston Martin: Cytundeb £500m rhwng y DU a Japan
- Cyhoeddwyd

Bydd ceir newydd y cwmni yn cael eu hadeiladu ar y safle yma yn Sain Tathan
Mae Aston Martin wedi cyhoeddi cytundeb masnachu a buddsoddi gwerth £500m rhwng y DU a Japan.
Y disgwyl yw y bydd yr arian yn golygu hwb i safleoedd y cwmni yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, a Gaydon yng ngorllewin canolbarth Lloegr.
Bydd y cytundeb pum mlynedd yn gweld mwy o geir cyflym yn cael eu hallforio o'r DU, rhannau yn cael eu prynu o Japan, a phencadlys newydd yn cael ei greu yn y dwyrain pell.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan lywydd a phrif weithredwr y cwmni, Dr Andy Palmer, yn ystod ei ymweliad â Japan fel rhan o ddirprwyaeth y prif weinidog Theresa May.
"Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd mae'n hanfodol ein bod ni'n adeiladu ar ein cysylltiadau gyda'n ffrindiau a'n cynghreiriaid," meddai Mrs May.
"Mae Aston Martin yn esiampl amlwg o gwmni arloesol a byd enwog y mae'r DU yn falch ohoni, ac rwyf wrth fy modd eu bod nhw'n ymuno â mi ar y genhadaeth bwysig hon."