Cwyn am fflôt 'hiliol' yng Ngharnifal Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn cwyn am hiliaeth honedig yn ymwneud â Charnifal Aberaeron eleni.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal bob blwyddyn dros Ŵyl y Banc ddiwedd Awst.
Dywedodd yr heddlu fod swyddogion yn ymchwilio i honiadau fod un o'r fflotiau oedd yn cystadlu yn y carnifal yn hiliol.
Mae'r blaid Lafur yng Ngheredigion hefyd wedi rhyddhau datganiad yn beirniadu'r fflôt, gan ddweud ei bod hi'n annerbyniol fod pobl wyn wedi lliwio'u croen yn ddu er mwyn portreadu cymeriadau o'r ffilm Cool Runnings.
'Hiliaeth'
"Mae'n hollol annerbyniol fod ymgeiswyr wedi duo eu hwynebau a gwisgo wigs cyrl," medd y datganiad.
"Yn syml, hiliaeth yw hyn, boed hynny'n fwriadol ai peidio, ac ar y gorau mae'n awgrymu nad yw'r rhai oedd yn gyfrifol yn ymwybodol o'r hanes ofnadwy a'r cysylltiadau gyda duo wynebau."
Dywedodd Dinah Mulholland, ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngheredigion yn yr etholiad cyffredinol diweddar: "Mae gan orllewin Cymru gysylltiadau cryf â'r fasnach caethwasiaeth, ac mae modd gweld y gwaddol gwarthus hwnnw yn nhraddodiad y minstreliaid a'r duo wynebau.
"Rydym yn galw ar drefnwyr Carnifal Aberaeron, a'n cynghorwyr sir a chymunedol i gydnabod y loes a'r tramgwydd mae hyn yn ei achosi, ac i feirniadu'r arfer o dduo wynebau ac unrhyw ffurf arall ar hiliaeth yng Ngheredigion."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i drefnwyr y carnifal am ymateb i'r honiadau.