Byd y Mabinogi

  • Cyhoeddwyd
Adrienne Roisin

Mae merch o Gricieth, sydd bellach yn byw yn Aberystwyth, yn ymddiddori mewn tynnu lluniau o chwedloniaeth a chymeriadau o'r Mabinogi. Mae Adrienne Roisin Theresa Vaughan yn sôn wrth Cymru Fyw sut mae'r byd ffantasïol hwnnw wedi dylanwadu arni hi:

"Dw i wastad wedi bod yn llawn chwilfrydedd am chwedloniaeth - ers cyn cof! Mae straeon am ddreigiau, mor-forynion, tylwyth teg a choblynnod wedi cynnal fy niddordeb ers dyddiau plentyndod," meddai Adrienne.

Annwn yw enw'r ffotograffiaeth mwy ffantasïol, ac roedd yn gam naturiol iddi fynd lawr y llwybr hwn, meddai.

"Mae chwedloniaeth Cymru yn rhan ohona i. O gael fy ngeni, a fy magu, a byw yng Nghymru, mae straeon y Mabinogi wedi fy hudo, a dw i'n ceisio trosglwyddo hynny i fy mhlant fy hun wrth iddyn nhw dyfu fyny," meddai'r fam 35 oed.

Pan oedd hi'n blentyn, meddai, doedd hi ddim yn sioc iddi am gael stŵr am freuddwydio gormod.

"Ro'n i'n cael stŵr bob amser, a dw i'n dal i freuddwydio - ac yn dal i gael stŵr am hynny o dro i dro!" mae'n cyfaddef.

Mae hi wedi gallu dianc rhag anawsterau a rhwystrau bywyd drwy fyd ffantasi, hefyd.

"Wnes i dyfu fyny gyda chariad mawr at ffilmiau fel The Dark Crystal, Labyrinth, Willow, The Princess Bride, Krull a The Never Ending Story i enwi ond ychydig," meddai Adrienne.

Ffynhonnell y llun, Adrienne Roisin
Disgrifiad o’r llun,

Arawn

Ffotograffiaeth - diléit ar ôl cael plant

"Er cymaint dw i'n caru tynnu lluniau babanod a phlant, mae rhoi stamp ffantasïol ar fy lluniau yn fy niddori i'n fawr," meddai Adrienne.

"Dw i'n dwlu ar bob dim sy'n ymwneud â byd ffantasi a chwedlonol, mae'n rhan o bwy ydw i, felly roedd creu'r gweithiau yma'n fy ngalluogi i fod yn greadigol, a mynegi fy hun drwy fy lluniau."

Daeth ffotograffiaeth i'r amlwg ar ôl iddi eni ei hail blentyn, meddai, ac wrth reswm, fel nifer o rieni eraill, roedd tynnu lluniau o'r babi newydd anedig yn bwysig iddi.

"Ro'n i'n rhwystredig iawn oherwydd doedd y lluniau ddim yn ddigon da," meddai.

Ar ôl geni ei thrydydd, fe wnaeth ei diddordeb hi dyfu'n sylweddol, a dechreuodd droi at lyfrau a chylchgronau am ffotograffiaeth, ac edrych ar fideos ar-lein am olygu lluniau.

"Wrth i mi fagu hyder, byswn i'n holi ffrindiau a theulu i fod yn fodeli, ac erbyn hyn, mae gen i fusnes," meddai Adrienne.

Ffynhonnell y llun, Adrienne Roisin
Disgrifiad o’r llun,

Here there be dragons

Arswyd y byd

Mae hi'n gweithio ar hap, meddai, a byth yn glynu at un thema'n benodol.

"Dw i'n dwlu gweithio mewn ffordd ffwrdd a hi, ac mae fy lluniau yn adlewyrchu fy meddyliau a fy nheimladau ar y pryd," meddai Adrienne.

Ymhlith ei dylanwadau mae cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm, yn enwedig y gwaith camera a'r ffotograffiaeth sydd ynghlwm â ffilmiau ffantasi fel The Lord of the Rings a Pan's Labyrinth a ffilmiau wedi eu hanimeiddio fel Nightmare before Christmas a Corpse Bride.

"Dw i wedi creu lluniau o for-forynion, gwrachod a dewiniaid - y cyfan yn golygu llawer i mi, ac yn apelio oherwydd dy'n nhw ddim yn rhan o'r bywyd hwn," meddai Adrienne.

"Dw i'n gallu creu rhyw fath o ddihangfa, a dw i wrth fy modd efo hynny. Fel plentyn, ro'n i'n gallu llwyr ymgolli mewn llyfr neu ffilm, ond erbyn hyn dw i'n trochi fy hun i mewn i fy nghreadigaethau fy hun drwy ffotograffiaeth.

Ffynhonnell y llun, Adrienne Roisin
Disgrifiad o’r llun,

Dewin ifanc

"Mae'n bwysig i mi bod fy lluniau i'n dweud stori, ac mae wastad yn fwriad gen i i wneud i'r bobl sy'n edrych ar fy ngwaith i osod eu naratif eu hunain ar y lluniau."

Mae ganddi brosiectau amrywiol ar y gweill, meddai. A gyda Chalan Gaeaf rownd y gornel, mae ei lluniau'n argoeli i fod yn fwy arswydus nag erioed.

"Yn syml iawn, mae fy ngwaith yn swreal ac efallai ychydig yn arswydus ar brydiau. Dw i wrth fy modd!"

Stori: Llinos Dafydd