Galw am 5,000 yn rhagor o achubwyr bywyd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
achub bywydFfynhonnell y llun, Sant Ioan Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae St John Cymru yn hyfforddi tua 26,000 o bobl mewn sgiliau cymorth cyntaf pob blwyddyn

Mae sefydliad St John Cymru wedi lansio ymgyrchu i geisio hyfforddi 5,000 o "achubwyr bywyd" newydd yng Nghymru.

Bob mis Medi mae'r elusen cymorth cyntaf yn cynnig sesiynau hyfforddi am ddim sydd yn para dwy awr, gyda'r bwriad o ddysgu technegau syml ar gyfer delio ag argyfwng.

Y gobaith yw hyfforddi mwy o bobl na'r 3,000 a gymerodd ran yn y gwersi ym mis Medi y llynedd.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Keith Dunn y gallai "wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd wedi'i golli a bywyd wedi'i arbed".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Dunn yn ymddeol fel prif weithredwr St John Cymru ar ôl 17 mlynedd yn y swydd

Dywedodd Mr Dunn mai'r gobaith oedd cael "person cymorth cyntaf ym mhob cartref yng Nghymru".

"Dydyn ni ddim yn credu y dylai unrhyw un farw oherwydd na chafon nhw'r cymorth cyntaf yr oedd ei angen arnyn nhw," meddai.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans AC: "Mae rhoi'r cyfle i bobl ar draws Cymru ddysgu sgiliau sylfaenol yn golygu y gallan nhw gamu mewn â hyder i achub bywydau eu ffrindiau, cymdogion ac anwyliaid yn y dyfodol."

Beth fydd yn rhan o'r hyfforddiant cymorth cyntaf?

  • Sut i berfformio dadebriad cardio-anadlol (CPR);

  • Beth i'w wneud os yw rhywun yn tagu;

  • Sut i drin gwaedu trwm;

  • Sut i roi rhywun yn y safle adfer.