Galw am ddysgu byd natur a bywyd gwyllt fel pwnc TGAU

  • Cyhoeddwyd
pili pala

Dylai bywyd gwyllt a hanes byd natur gael ei ddysgu fel pwnc TGAU yng Nghymru yn y dyfodol, meddai naturiaethwr blaenllaw.

Mae Iolo Williams yn credu y dylen nhw fod yn rhan o'r cwricwlwm gan fod pobl wedi "colli cysylltiad" gyda natur.

Daw ei sylwadau wedi i arolwg barn diweddar awgrymu nad oedd traean o rieni yn gallu dysgu eu plant am fywyd gwyllt.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ysgolion arloesi'n ystyried sut y gall natur a bywyd gwyllt gefnogi dibenion y cwricwlwm newydd.

'Colli cysylltiad'

Disgrifiad,

'Angen dysgu am fyd natur fel pwnc TGAU'

Fe wnaeth gwaith ymchwil Jordans Farm Partnership hefyd ddarganfod bod saith o bob 10 person yn teimlo eu bod nhw'n colli cysylltiad efo byd natur.

Doedd bron i un mewn pump o'r rheiny gafodd eu holi erioed wedi gweld llyfant.

Yn ôl Mr Williams, ni fyddai hwn yn "gwrs ysgafn o gwbl" ac fe ddylai hanes byd natur fod yn rhan "sylfaenol o'n bywydau".

Dywedodd: "Dwi'n teimlo'n angerddol bod rhaid i ni gael TGAU mewn byd natur. Dros y blynyddoedd diwetha' 'ma rŵan, dros y degawdau a dweud y gwir, da' ni di colli cysylltiad efo byd natur.

"Pan o'n i'n hogyn bach mi oedd 'na fwrdd natur ym mhob ysgol, oedd rhieni, neiniau a theidiau yn mynd â phlant allan am dro a dangos pethau iddyn nhw. Dydi hwnna ddim yn digwydd rŵan."

Ychwanegodd: "Wrth golli cysylltiad 'dan ni wedi colli parch a 'dan ni wedi colli'r awch i ddiogelu byd natur. Mae byd natur i ni yn bwysig iawn ac mae'n rhaid i ni gofio bod ni'n rhan ohona fo."

Dywedodd pennaeth Ysgol Friars ym Mangor, Neil Fodden fod ganddo "gydymdeimlad" gyda'r syniad, ond rhybuddiodd: "Yn sicr mae o'n iawn fod 'na ddiffyg dealltwriaeth ymysg pobl ifanc o'r byd naturiol o'u cwmpas nhw.

"Y broblem ydi bod y cwricwlwm yn barod yn llawn ac os ydyn ni'n ychwanegu pwnc arall yna mae'n rhaid i rywbeth arall fynd."

Cwricwlwm newydd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang wedi'i gwreiddio mewn amrywiaeth o bynciau a gweithgareddau ysgol at ddibenion dysgu.

"Er enghraifft, gall ysgolion ddewis cyflwyno'r thema "Yr Amgylchedd Naturiol" sy'n rhan o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang drwy gael disgyblion i ofalu am ardd lysiau'r ysgol.

"Bydd hyn yn annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithgareddau o fewn amgylchedd yr ysgol ac ystyried cynaliadwyedd y byd naturiol.

"Mae ysgolion arloesi'n ystyried sut y gall natur, bywyd gwyllt a'r cefn gwlad gefnogi pedwar diben y cwricwlwm newydd."