Teuluoedd i ddwyn camau sifil wedi marwolaethau Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
Tan sychwrFfynhonnell y llun, Lluniau teulu

Mae teuluoedd dau ddyn fu farw mewn tân yn Llanrwst yn bwriadu dwyn camau sifil wedi i grwner ddod i'r casgliad mai nam ar beiriant sychu dillad oedd yn debygol o fod wedi achosi'r tân.

Bu farw Bernard Hender, 19, a Doug McTavish, 39, yn y digwyddiad ym mis Hydref 2014.

Llwyddodd trydydd dyn, Garry Lloyd Jones, i ddianc o'r adeilad.

Mewn datganiad, dywedodd cwmni cyfreithwyr Thomas Jervis: "Bydd Mr Lloyd Jones a theuluoedd y ddau fu farw yn bwrw mlaen â'u ceisiadau sifil nawr fod y crwner wedi dod i'w gasgliadau.

"Fydd dim yn dod â'u hanwyliaid yn ôl, ond maen nhw'n awyddus i sicrhau nad oes trasiedi ddiangen fel hon yn digwydd eto.

"Yn ogystal â'r ceisiadau sifil, maen nhw'n pwyso am gyflwyno newidiadau i'r system o alw nwyddau yn ôl yn y DU - newidiadau y mae Brigad Dân Llundain a Lynn Faulds Wood wedi eu tanlinellu."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Doug McTavish, Bernard Hender a Garry Lloyd Jones yn rhannu fflat ar Sgwâr Ancaster yn Llanrwst

Wrth gofnodi rheithfarn naratif yn y gwrandawiad yn Rhuthun ddydd Gwener, dywedodd y crwner: "Mae'n debygol bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn y sychwr dillad yn y fflat."

Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu at gwmni Whirlpool, gwneuthurwyr y peiriant sychu dillad, i godi pryderon am ymateb y cwmni i dystiolaeth.

Datganiad

Yn dilyn y cwest, dywedodd llefarydd Whirlpool: "Fe hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a ffrindiau Bernard Hender a Douglas McTavish.

"Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn trin pob achos yn hynod o ddifrifol ac mae gennym broses gadarn mewn lle sy'n adolygu diogelwch ein holl gynnyrch yn barhaus.

"Byddwn yn adolygu ac ystyried darganfyddiadau'r crwner yn ofalus."