Peiriant sychu dillad wedi achosi tân Llanrwst medd crwner
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dod i'r casgliad mai nam ar beiriant sychu dillad oedd yn debygol o fod wedi achosi tân yn Llanrwst lle bu dau ddyn farw.
Dywedodd David Lewis, y dirprwy grwner dros ogledd ddwyrain Cymru, ei fod yn hynod o annhebygol mai haearn smwddio neu olau oedd achos y tân.
Bu farw Bernard Hender, 19, a Doug McTavish, 39, yn y digwyddiad ym mis Hydref 2014.
Dywedodd perchennog y fflat lle ddigwyddodd y tân ei fod wedi gweld fflamau'n dod o grombil y peiriant sychu dillad.
'Nam trydanol'
Wrth gofnodi rheithfarn naratif yn y gwrandawiad yn Rhuthun, dywedodd y crwner: "Mae'n debygol bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn y sychwr dillad yn y fflat."
Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu at gwmni Whirlpool, gwneuthurwyr y peiriant sychu dillad, i godi pryderon am ymateb y cwmni i dystiolaeth.
Llwyddodd trydydd dyn, Garry Lloyd Jones i ddianc o'r adeilad.
Tra'n rhoi tystiolaeth yn gynharach yn y cwest, dywedodd ei fod wedi sicrhau fod y sychwr wedi ei ddiffodd cyn iddo fynd i'r gwely yn oriau mân y bore, ac iddo sylwi fod y drws yn agored a thywelion ynddo.
Aeth ymlaen i ddweud fod yr ystafell yn llawn mwg pan ddeffrodd am 06:00.
Clywodd y gwrandawiad bod y sychwr yn rhan o gynllun "addasu" gafodd ei gyhoeddi yn Nhachwedd 2015.
Dywedodd llefarydd ar ran Whirlpool bod darnau bach o ddefnydd yn gallu dod i gysylltiad â gwresogydd y peiriant, ac y byddai'r rhaglen addasu yn trwsio hynny.
Dywedodd y llefarydd bod y cynllun wedi ei gyhoeddi yn eang er mwyn "gwneud y cyhoedd a chwsmeriaid yn ymwybodol".
Datganiad
Yn dilyn y cwest, dywedodd llefarydd Whirlpool: "Fe hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a ffrindiau Bernard Hender a Douglas McTavish.
"Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn trin pob achos yn hynod o ddifrifol ac mae gennym broses gadarn mewn lle sy'n adolygu diogelwch ein holl gynnyrch yn barhaus.
"Byddwn yn adolygu ac ystyried darganfyddiadau'r crwner yn ofalus."
Roedd ymchwilydd tân wedi dweud wrth y cwest nad oedd y difrod i beiriant sychu dillad yn cyd-fynd â nam trydanol.
Dywedodd cyn-bennaeth diogelwch cynnyrch i gwmni Whirlpool bod tystiolaeth yn awgrymu bod defnydd wedi mynd ar dân o fewn drwm y peiriant.