Pallial: 'Diffyg cefnogaeth' i ddioddefwyr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn fu'n siarad gydag Ymgyrch Pallial wedi iddo ddiodde' cam-drin rhywiol fel plentyn yng ngogledd Cymru wedi dweud y byddai'n cynghori eraill i beidio siarad, a hynny oherwydd diffyg cefnogaeth a gofal.
Mae Keith Gregory yn honni bod nifer o ddioddefwyr ar eu colled ar ôl siarad gyda'r heddlu.
Cafodd Ymgyrch Pallial ei sefydlu pedair blynedd yn ôl ac mae wedi sicrhau euogfarnau yn erbyn naw unigolyn hyd yma.
Mae Mr Gregory hefyd yn galw am sefydlu asiantaeth genedlaethol yng Nghymru i gynorthwyo oedolion gafodd eu cam-drin fel plant.
Ond mae ef yn siomedig gyda'r gefnogaeth a gafodd ar ôl siarad gyda'r heddlu.
Dioddef 'mwy nag erioed'
Dywedodd Keith Gregory: "Ry'ch chi'n cael eich gadael ar eich pen eich hunan a dweud y gwir.
"Ar ôl siarad gyda'r heddlu am dair neu bedair awr mewn cyfweliad mae'n achos o 'hwyl fawr i chi nawr'...
"Am flynyddoedd dwi wedi bod yn dweud wrth bobl am ddod ymlaen, ond tase rhywun yn gofyn i mi nawr fyddwn i'n sicr yn eu cynghori i beidio.
"Mae pobl yn diodde' nawr yn fwy nag erioed, ac nid fel 'na y dylai hi fod."
Mae BBC Cymru wedi siarad gyda dau arall fu'n siarad gydag Ymgyrch Pallial, ac maen nhw hefyd yn teimlo eu bod wedi cael eu "gadael i lawr".
Mae rhaglen cefnogi dioddefwyr Ymgyrch Pallial yn dweud eu bod wedi siarad gyda phob un o'r 359 o bobl ddaeth i roi tystiolaeth i'r ymgyrch.
Cyngor Conwy - ar ran holl gynghorau gogledd Cymru - a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am y rhaglen, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Conwy, Jennie Williams, sy'n arwain y rhaglen.
Dywedodd Ms Williams: "Rydan ni wedi siarad hefo nhw i gyd ac mae'r rhan fwya' wedi bod yn hapus hefo be' ydan ni wedi'i gynnig.
"Faswn i'n teimlo'n reit gry' i ofyn i bobl roi 'chance' i ni, achos dwi'n meddwl fod o'n bwysig iawn bo' ni'n trio helpu pobl sydd ddim yn hapus hefo'r gwasanaeth."
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland yn dweud bod hi'n hanfodol bod help ar gael i ddioddefwyr.
"Y ffaith amdani yw y gall cwnsela a chefnogaeth ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw ymchwiliad ffurfiol, ac mae'n hanfodol bod yr awdurdodau a'r Llywodraeth yn sicrhau bod anghenion y goroeswyr yn cael eu cwrdd trwy gefnogaeth arbenigol sy'n ddigonol a phriodol."
Yn ôl y Swyddfa Gartref mae'n bwysig bod dioddefwyr yn teimlo eu bod nhw yn gallu adrodd camdriniaeth a chael eu cefnogi.
Swyddogion arbenigol
Dywedodd y llefarydd: "Rydym wedi rhoi £5m o gyllid i Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Operation Pallial, sy'n cynnwys swyddogion arbenigol sy'n cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr o'r cyfnod mae trosedd yn cael ei adrodd hyd at ddiwedd yr achos.
"Rydym hefyd yn cynnig £7m o gyllid ar gyfer sefydliadau sy'n cefnogi dioddefwyr achosion rhyw a throseddau rhyw sy'n ymwneud â phlant".