Cymeradwyo canolfan brosesu gwastraff i Langennech
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ddatblygu canolfan brosesu gwastraff yn Sir Gaerfyrddin wedi cael sêl bendith er gwaethaf pryderon lleol.
Ddydd Mawrth cafodd cwmni ailgylchu ganiatâd cynllunio i adeiladu ar hen safle Glofa Morlais yn Llangennech.
Ond roedd nifer o drigolion lleol wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r cynnydd mewn traffig ar ffyrdd sydd eisoes yn brysur. Roedd yna pryderon hefyd am lygredd sŵn a llwch.
Ar ran y cwmni dywedodd yr asiant Jason Evans fod y datblygwr yn "hapus na fyddai effaith niweidiol i ddiogelwch ffordd".
Dywedodd eu bod wedi cydweithio ag asiant cefnffordd er mwyn "sicrhau na fyddai yna effaith" ac mai dim ond 1% o gynnydd a fyddai yn y traffig ar y ffyrdd.
Un sy'n byw yn Llangennech yw Joshua Williams. Mae'n dweud nad oedd e'n gwybod dim am y cynlluniau ond nad oedd yn "orhoff o'r syniad" a bod y ffyrdd yn "brysur iawn yn y boreau".
Mae'r cwmni sef Browns Recycling Group yn dymuno prosesu hyd at 50,000 tunnell o wastraff adeiladu a dymchwel bob blwyddyn.
Bydd y gwastraff yn cael ei drosglwyddo i'r safle gan lorïau trwm 32 tunnell.