Baneri Lloegr a symbolau swastica wedi'u peintio mewn pentref

Pedwar yn glanhau safle bwsFfynhonnell y llun, Sam Higgins
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd trigolion Henllys y diwrnod cyfan yn glanhau croesau San Siôr a symbolau swastica o gwmpas y pentref

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn gwneud ymholiadau ar ôl i faneri Lloegr a symbolau swastica ymddangos o gwmpas pentref yn y de.

Cafodd tua 20 o arwyddion gwahanol eu peintio ar amrywiol eiddo o amgylch Henllys yng Nghwmbrân, Torfaen, cyn i bentrefwyr ddod ynghyd i'w glanhau.

Diolchodd y cyngor i'r trigolion am lanhau'r graffiti. Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn ymchwilio ymhellach.

Daw'r digwyddiad yn dilyn symbolau tebyg yn cael eu gosod ledled Lloegr ym mis Awst, yn ogystal ag ymchwiliad heddlu i faner Lloegr yn cael ei beintio ar gylchfan yn Llandudno.

Dynes ifanc yn glanhau walFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion ysgol yn defnyddio'r trên tanddaearol - lle'r oedd y swasticas

Mae grwpiau sy'n gyfrifol am godi'r baneri yn Lloegr wedi dweud wrth y BBC eu bod nhw wedi'u hysbrydoli gan falchder a gwladgarwch.

Ond, mae eraill wedi dweud bod y weithred yn teimlo'n bryfoclyd ar adeg pan fo tensiynau'n uchel ynghylch mewnfudo.

Dywedodd tua 15 o drigolion a lanhaodd y graffiti yn Henllys eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu "grymuso" gan eu hymdrechion.

Dywedodd Sam Higgins, 54, wnaeth gyd-arwain y glanhau, fod y rhan fwyaf o'r "fandaliaeth" yn groesau San Siôr, ond fe wnaethon nhw ddod o hyd i swasticas hefyd - ochr yn ochr ag ysgrifen oedd yn darllen: "Stopiwch y cychod".

Y swastica oedd symbol Plaid y Natsïaid yn yr Almaen.

GraffitiFfynhonnell y llun, Sam Higgins
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd croesau San Siôr eu gweld ar sawl arwydd traffig

Mae disgyblion ysgol yn defnyddio' lôn danddaearol lle'r oedd y swasticas wedi eu peintio a dywedodd Ms Higgins fod y fandaliaeth "mor anghywir".

Dywedodd nad oedd hi "erioed wedi meddwl" y byddai hi'n sgwrio swastica yn 2025.

Dechreuodd Ms Higgins dderbyn negeseuon am y graffiti, ac ynghyd â'r Cynghorydd Fiona Cross, casglodd grŵp o drigolion at ei gilydd i'w glanhau.

Mae'r rhai a beintiodd yr arwyddion "eisiau creu rhwyg rhwng pobl", meddai Ms Higgins, ond mae hi'n credu bod y glanhau wedi anfon neges llawer cryfach.

Fiona CrossFfynhonnell y llun, Fiona Cross
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Cross nad ydy hi wedi profi unrhyw beth fel hyn yn Henllys, nac ar draws Cwmbrân

Dywedodd y cynghorydd o Henllys, Fiona Cross, nad yw'r "fandaliaeth yn cynrychioli barn y mwyafrif, ond lleiafrif".

"Yn fwy pryderus, mae'r defnydd o faner o wlad wahanol yn cael ei defnyddio i fynegi safbwynt penodol, ledled y DU, nid yng Nghymru yn unig," ychwanegodd.

Dywedodd Ms Cross nad ydy hi wedi profi unrhyw beth fel hyn yn Henllys, nac ar draws Cwmbrân ac er ei bod hi "o blaid rhyddid barn a phobl yn cael dweud eu dweud", nid dyma'r ffordd i wneud hynny.

Diolchodd cyfarwyddwr cymunedau ac amgylchedd Cyngor Torfaen, Mark Thomas, i'r gymuned leol "am gael gwared ar graffiti oddi ar yr arwyddion".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig