Cartref Hedd Wyn yn ailagor fel canolfan dreftadaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd cartref y bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd yn cael ei ailagor yn swyddogol fore Mercher fel canolfan dreftadaeth.
Ers 2015, mae fferm Yr Ysgwrn wedi bod ar gau er mwyn hwyluso'r gwaith o atgyweirio a datblygu canolfan dreftadaeth i gofnodi bywyd Ellis Humphrey Evans, sef Bardd y Gadair Ddu.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn grant o £3.1m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £300,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn atgyweirio a datblygu adeiladau a dodfren Yr Ysgwrn.
Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fydd yn agor y ganolfan yn swyddogol a bydd disgynydd i Hedd Wyn, Gerald Williams, hefyd yn bresennol.
Cofeb i 30 o ddynion
Yn ystod y gwaith atgyweirio cafodd holl ddodrefn, papur wal a charped Yr Ysgwrn eu tynnu allan.
Erbyn hyn mae'r holl ystafelloedd wedi eu hadfer i edrych fel y byddai wedi bod yn 1917.
Wrth ochr y tŷ mae'r beudy, ac yno erbyn hyn mae 'na gofeb i 30 o ddynion ifanc o ardal Trawsfynydd a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Mae hefyd cyfle i weld ffilm am fywyd Hedd Wyn.
Fe ddaeth Hedd Wyn yn symbol o'r miloedd o Gymry ifanc gafodd eu lladd yn y Rhyfel Mawr.
Chwe wythnos cyn i'w enw gael ei gyhoeddi'n fuddugol yn un o brif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, cafodd y bardd ifanc ei ladd ym Mrwydr Passchendaele. Roedd yn 30 oed.
Ar 6 Medi 1917 fe gynhaliwyd seremoni'r cadeirio yn Eisteddfod Penbedw.
Ar ôl cyhoeddi ffug-enw'r buddugwr, sef Fleur de Lys, dair gwaith o'r llwyfan, fe ddywedodd Archdderwydd Dyfed wrth y gynulleidfa fod y bardd buddugol wedi ei ladd yn y rhyfel.
Cafodd y gadair ei gorchuddio gyda lliain du, cyn cael ei chludo i gartre'r bardd - Yr Ysgwrn.
Y penwythnos hwn, i nodi union ganrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu, bydd dau ddiwrnod o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym Mhenbedw.
Un o brif ddigwyddiadau'r ŵyl fydd cyflwyno cadair gwerth £10,000 i'r person buddugol am ysgrifennu cerdd ar y testun Hedd Wyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2017
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2016