Dan Biggar i arwyddo i Northampton Saints yn 2018

  • Cyhoeddwyd
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Biggar wedi chwarae dros 200 o gemau i'r Gweilch

Mae maswr Cymru a'r Gweilch, Dan Biggar, wedi cytuno i arwyddo i Northampton Saints a bydd yn symud i'r clwb ar ddiwedd y tymor.

Roedd cytundeb y chwaraewr rhwng y Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru yn dod i ben yn 2018.

Er bod cymal yn y cytundeb yn rhoi opsiwn i Biggar ymestyn am flwyddyn ychwanegol, mae'r chwaraewr 27 oed wedi penderfynu symud.

Mae Biggar wedi ennill 56 o gapiau i Gymru ac roedd yn aelod o garfan y Llewod ar gyfer y daith i Seland Newydd dros yr haf.

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd cyn chwaraewr Cymru, Jonathan Davies, gallai'r symudiad fod yn fanteisiol i Gymru.

"Fe allai fod o fudd i Gymru. Mae rhai chwaraewyr wedi mynd i ffwrdd ac wedi troi'n well chwaraewyr a rhai heb wneud.

"Mae wedi rhoi popeth i'r rhanbarth ers bod yno am dros ddeng mlynedd," meddai.

Fe wnaeth Biggar chwarae ei gêm gyntaf i'r Gweilch yn 2008 ac mae wedi chwarae dros 200 o gemau i'r rhanbarth.