Cynghorau Iechyd Cymunedol: 'Cwestiynau heb eu hateb'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty

Does dim digon o ymgynghori wedi bod ynglŷn â chynlluniau i gael gwared â Chynghorau Iechyd Cymunedol a sefydlu un corff cenedlaethol yn ôl prif weithredwr corff ymgynghori cyhoeddus.

Mae Rhion Jones o'r Consultation Institute wedi dweud bod "nifer o gwestiynau heb eu hateb".

Mae gweinidogion wedi ystyried cael gwared â Chynghorau Iechyd Cymunedol a sefydlu un corff cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'n gywir dweud nad ydynt wedi ymgynghori'n iawn, gan ddweud bod 250 wedi ymateb hyd yma.

'Adolygiad barnwrol'

Eisoes mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymestyn y dyddiad cau, gan ddweud nad oedden nhw'n "diystyru'r posibilrwydd" o adolygiad barnwrol os na fydd hynny'n digwydd.

Fe gafodd ymgynghoriad ar y cynlluniau ei lansio dri mis yn ôl, ac mae cyfres o wyth "grŵp ffocws anffurfiol" wedi cael eu cynnal yn yr wythnosau cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 29 Medi.

Dywedodd Mr Jones fod "nifer o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â beth yn union mae gweinidogion eisiau yn lle'r Cynghorau Iechyd Cymunedol".

"Mewn ymgynghoriad llawn, mae digon o gyfleoedd i egluro beth mae'r cynigion yn ei olygu, ac i ystyried yr effaith posib," meddai.

"Hyd yn hyn does digon o ymgynghori wedi bod."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Isherwood AC nad oedd yn diystyru "adolygiad barnwrol"

Ychwanegodd Mr Jones: "Yn yr achos penodol yma, mae diddymu rhan fawr, bwysig o strwythur y GIG yng Nghymru, a gyda'r cynigion ar gyfer corff yn ei le mor aneglur, mae'n galw am sesiynau cyhoeddus tryloyw lle gallai gweinidogion egluro'n union beth sydd ganddyn nhw mewn golwg."

Mae'r AC Ceidwadol Mark Isherwood wedi dweud fod yr ymgynghoriad wedi arwain at "ddim llai nag ymarferiad cosmetig".

Dywedodd: "Mae'r diffyg brys ar ran Llywodraeth Cymru i drefnu digwyddiadau ymgynghorol angenrheidiol, heb sôn am y diffyg cyfleoedd i bobl ar y ddwy ochr i ymgynghori'n iawn a chael mynegi eu barn mewn digwyddiadau cyhoeddus, yn tanseilio cyfreithlondeb y broses."

Ychwanegodd: "Alla i ddim diystyru'r posibilrwydd o adolygiad barnwrol os na fydd dyddiad cau'r ymgynghoriad yn cael ei ymestyn."

Ymateb y Llywodraeth

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y digwyddiadau grwpiau ffocws wedi bod yn agored ac wedi'u hanelu at bobl fyddai ddim fel arfer yn ymgysylltu â'r fath drafodaethau, a bod croeso i unrhyw un oedd yn dymuno mynd.

Dywedodd: "Dyw hi ddim yn gywir i ddweud bod diffyg wedi bod o ran ymgynghori, a dyw'r Cynghorau Iechyd Cymunedol ddim wedi gofyn am amser ychwanegol ar unrhyw adeg.

"Mae'r ymgynghoriad, sydd â 250 o ymatebion hyd yma, wedi bod ar droed ers 28 Mehefin ac rydym wedi cynnig cwrdd â phobl flaenllaw, gan gynnwys byrddau Cynghorau Iechyd Cymunedol.

"Mae'r papur gwyrdd ar Ein Hiechyd, Ein Gwasanaethau Iechyd, oedd yn casglu barn pobl ar hyn yn 2015 hefyd, wedi cael ei gymryd i ystyriaeth yn ystod y broses yma."