Ymgynghori ar ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Babanod BarrasFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ysgol Gymraeg yn symud yn y diwedd i safle parhaol ar safle presennol Ysgol Babanod Parc Borras

Fe fydd 'na ymgynghoriad ar gynlluniau i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Wrecsam.

Gobaith Cyngor Wrecsam yw agor ysgol gyda lle i 210 o ddisgyblion ym mis Medi 2019.

Mae'r cyngor wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol gan ymgyrchwyr, sy'n dweud nad ydyn nhw'n sylweddoli faint o alw sydd 'na am addysg Gymraeg.

Dywedodd grŵp Rhieni Dros Addysg Gymraeg y llynedd bod "pwysau aruthrol" ar y system addysg.

O dan gynlluniau'r cyngor, byddai'r ysgol newydd yn agor ar hen safle Ysgol Babanod Hafod y Wern yn ardal Queensway i ddechrau, ond y byddai'n symud i adeilad parhaol ar safle presennol Ysgol Babanod Parc Borras yn y pendraw.

Mae disgwyl i'r cyfnod ymgynghoriad dau fis ddechrau ddiwedd Medi.