Rhybudd elusen fod cam-drin henoed yn 'broblem fawr'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cymryd camau radical er mwyn gwarchod pobl hŷn yng Nghymru rhag cael eu cam-drin, yn ôl un elusen.
Dywedodd Action on Elder Abuse Cymru fod llawer o gamdrinwyr yn osgoi cael eu cosbi, ac maen nhw'n ymgyrchu i gael cosbau llymach.
Mewn arolwg o 500 o bobl dros 65 oed fe wnaethon nhw ganfod fod un o bob wyth ohonynt wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth.
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, fod angen mynd i'r afael â'r mater ar frys.
'Bygythiadau a gwawdio'
Yn ôl ymchwil yr elusen i bobl hŷn, roedd:
6.7% ohonynt wedi profi camdriniaeth seicolegol, megis bygythiadau neu wawdio;
0.8% wedi cael eu cam-drin yn gorfforol, fel cael eu taro, neu rywun yn poeri atynt;
3.3% wedi cael eu cam-drin yn ariannol, er enghraifft drwy dwyll neu ladrad.
Yn yr arolwg fe wnaeth teulu a ffrindiau'r bobl hŷn adrodd lefelau uwch o fod wedi gweld enghreifftiau o gam-drin, gyda'r elusen yn dweud fod hynny'n awgrym fod yr henoed yn llai tebygol o gyfaddef i ddigwyddiadau.
Yn 2015-16 cafodd 3,012 achos o droseddau honedig yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru a Lloegr eu cofnodi, ond dim ond 0.7% ohonynt wnaeth arwain at euogfarn lwyddiannus.
Mae'r elusen yn dweud fod hynny'n dystiolaeth fod angen cosbau llymach ar gyfer y rheiny sydd yn cam-drin pobl hŷn.
Dywedodd cyfarwyddwr Action on Elder Abuse Cymru, Rachael Nicholson-Wright fod eu hymchwil yn cadarnhau fod cam-drin henoed yn "fater difrifol" yng Nghymru a bod angen "cymryd camau radical" er mwyn atal rhagor rhag dioddef.
Ychwanegodd fod y system gyfiawnder yn "methu ag atal camdrinwyr", gan ddisgrifio'r dedfrydau presennol fel rhai "tila tu hwnt".
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira fod yr ymchwil yn dangos fod "mwy angen ei wneud i daclo camdriniaeth o'r henoed" er gwaethaf "gwaith da dros y blynyddoedd".
"Mae anhafaledd amlwg yn bodoli ar hyn o bryd rhwng y gyfradd euogfarn am gam-drin, gan olygu nad yw'r gyfraith fel y mae hi yn darparu cyfiawnder i bobl hŷn nag yn rhwystr i'r rheiny sydd yn cam-drin pobl hŷn."