ASau benywaidd i ymuno â'r Pwyllgor Materion Cymreig

  • Cyhoeddwyd
anna mcmorrin, tonia antoniazzi, liz saville roberts
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Mae disgwyl i Anna McMorrin, Tonia Antoniazzi a Liz Saville Roberts ymuno â'r pwyllgor

Bydd tair AS o Gymru yn ymuno â phwyllgor seneddol dylanwadol yn dilyn beirniadaeth nad oedd yr un fenyw yn aelod ohono.

Gwaith y Pwyllgor Materion Cymreig yw craffu ar bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ymwneud â Chymru neu sydd yn cael effaith ar y wlad.

Ond fe gododd ffrae'r wythnos hon wedi iddi ddod i'r amlwg mai dynion oedd pob un o chwe aelod y pwyllgor newydd.

Mae disgwyl nawr i'r ASau Llafur Tonia Antoniazzi ac Anna McMorrin, yn ogystal ag arweinydd grŵp seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts gael eu hychwanegu at y nifer.

'Pwerau arbennig'

Ddydd Llun cafwyd cadarnhad mai aelodau newydd y Pwyllgor Materion Cymreig oedd David Davies, Chris Davies a Glyn Davies (Ceidwadwyr), Geraint Davies a Paul Flynn (Llafur) a Ben Lake (Plaid Cymru).

Mr Davies a Mr Flynn oedd yr unig ddau o'r 28 Aelod Seneddol Llafur o Gymru wnaeth roi eu henwau ymlaen ar gyfer y pwyllgor yn wreiddiol.

Mae llefarydd ar ran Llafur Cymru nawr wedi cadarnhau y bydd Ms Antoniazzi a Ms McMorrin, gafodd eu hethol am y tro cyntaf yn 2017, hefyd am gael eu henwebu.

Bydd angen i'r ddwy gael eu cymeradwyo yn ffurfiol gan Dŷ'r Cyffredin, ond mater o amser yw'r broses honno ar y cyfan.

Disgrifiad o’r llun,

AS Mynwy, David Davies ydi cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig

Mae disgwyl i'r pwyllgor gynnal ymchwiliadau ar Brexit, trydaneiddio rheilffyrdd, a morlynnoedd llanw ac ynni hydro.

Dywedodd Geraint Davies AS fod gan y pwyllgor "bwerau arbennig i ofyn i weinidogion a thystion eraill ddod i roi tystiolaeth", ac y byddai'n gyfle i ddwyn y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i gyfrif.

Os yw Ms Saville Roberts yn ymuno â'r Pwyllgor Materion Cymreig dyma fyddai'r tro cyntaf i'w phlaid gael dwy sedd ar y pwyllgor.

Mae'n bosib y gallai dau Aelod Seneddol Ceidwadol arall hefyd gael eu hychwanegu ato.