Teithiau dyddiol i Qatar o Faes Awyr Gaerdydd yn 2018

  • Cyhoeddwyd
teithiauFfynhonnell y llun, Qatar Airways
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaeth dyddiol rhwng Maes Awyr Caerdydd a Doha yn dechrau ar 1 Mai 2018

Bydd modd teithio o Faes awyr Caerdydd i Qatar o fis Mai 2018, wedi i Qatar Airways gyhoeddi manylion gwasanaeth awyr dyddiol newydd rhwng y ddwy wlad.

Mae rheolwyr y maes awyr yn dweud fod hyn yn bluen yn eu het, gan mai Caerdydd fydd yn darparu'r unig wasanaeth dyddiol i'r Gwlff o dde orllewin y Deyrnas Unedig.

Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ar 1 Mai, gyda'r awyrennau'n teithio i'r brifddinas, Doha.

Ers ei hagor yn 2014, mae Maes Awyr Rhyngwladol Hamad ym mhrifddinas Qatar wedi datblygu'n un o feysydd awyr prysura'r byd, gyda 30 miliwn o bobl yn teithio drwyddi'n flynyddol. Mae hefyd yn gyswllt pwysig â nifer o feysydd awyr a gwledydd eraill, gan gynnwys China ac Awstralia.

Awyren Boeing 787 Dreamliner fydd yn cael ei defnyddio i gludo teithwyr, sydd â 22 o seddi dosbarth busnes, a 232 o seddi economi.

'Balch iawn'

Dywedodd Prif Weithredwr Qatar Airways, Ei Ardderchowgrwydd Mr Akbar al Baker: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi dyddiad cychwyn ein ein gwasanaeth uniongyrchol i Gaerdydd.

"Mae llawer o deithwyr ar hyn o bryd yn hedfan i ac o Lundain, gan ddefnyddio trafnidiaeth tir rhwng Llundain a Chaerdydd, felly bydd y llwybr newydd hwn yn caniatáu i deithwyr hedfan yn syth o Gymru i Doha a thu hwnt am y tro cyntaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Roger Lewis yn dweud y bydd teithwyr a busnesau'n elwa o'r gwasanaeth newydd

Dywedodd Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd: "Mae hon yn foment bwysig i Faes Awyr Caerdydd.

"Bydd sgileffeithiau'r gwasanaeth hwn i deithwyr a busnesau ar draws Cymru a De Orllewin Lloegr yn drawsffurfiol.

"Mae Awyr Caerdydd fydd nawr yn darparu'r unig hediadau dyddiol uniongyrchol i'r Gwlff o dde orllewin y DU. Mae hyn yn arbennig iawn i ni gyd."