Gwasanaeth newydd i gleifion byddar mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Darren TobinFfynhonnell y llun, ABMU
Disgrifiad o’r llun,

Darren Tobin oedd un o'r cleifion cyntaf i dreialu'r gwasanaeth newydd

Mae staff meddygol yn y de yn gobeithio cyflwyno gwasanaeth newydd i sicrhau bod cleifion a staff byddar yn gallu cael mynediad i gyfieithydd iaith arwyddion unrhyw adeg.

Mae'r gwasanaeth yn dilyn arbrawf yn defnyddio meddalwedd fideo Facetime ar dabledi iPad yn Ysbytai Castell-nedd Port Talbot a Thywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae un claf, Darren Tobin, wedi disgrifio'r system newydd fel un "ffantastig".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ei fod bellach yn "cyflwyno gwelliannau munud olaf" i'r gwasanaeth newydd.

Pwysleisiodd penaethiaid iechyd na fydd y system yn disodli sesiynau wyneb yn wyneb gyda staff sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ond fod y gwasanaeth ychwanegol i'w ddefnyddio mewn sefyllfaoedd brys neu pan nad yw cyfieithydd ar gael ar unwaith ar y ward.

'Hapus iawn'

"Roedd gen i ychydig o bryderon am gael dehongliad trwy'r iPad yn hytrach na chael cyfieithydd yn bresennol," meddai Mr Tobin, 51 oed o Bort Talbot.

"Ond roeddwn yn hapus iawn gyda'r ffordd yr aeth pethau. Roedd yn syml iawn ac roedd y gofal a gefais yn ardderchog.

"Roedd y cyfieithydd yn ffantastig. Pan oedd y nyrs a'r meddyg yn esbonio am y glun newydd, roedd hyn i gyd yn glir iawn ac yn hawdd ei ddeall."

Cynhaliwyd y prosiect dan oruchwyliaeth Cyngor Cymru ar gyfer Pobl Fyddar, sy'n darparu cyfieithwyr ar gyfer y bwrdd iechyd.

Dywedodd rheolwr gweithrediadau'r cyngor, Louise McGrath: "Bydd yn caniatáu i'r bwrdd iechyd sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth byddar yn derbyn cefnogaeth gyfathrebu briodol ac amserol ar adeg sydd fwyaf ei angen,"

"Mae'r ddarpariaeth ychwanegol hon yn golygu bod y gwasanaeth yn ffordd effeithiol a chost effeithlon o sicrhau bod y bwrdd iechyd yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i'r gymuned fyddar."