Cerddor o Fôn yn dathlu
- Cyhoeddwyd
![wrench](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12E9/production/_97814840_411c83b2-a62d-41e9-a84e-7196730b6aad.jpg)
Roedd hi'n noson fawr i'r cerddor, cynhyrchydd a pheirianydd sain o Ynys Môn, David Wrench neithiwr wrth i'r record wnaeth o ei chymysgu ennill Gwobr Mercury 2017.
Y cerddor Sampha enillodd y wobr am ei albwm Process.
Roedd y canwr byd-enwog Kanye West wedi cyfrannu at un o ganeuon yr albwm hefyd.
![mercury](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8819/production/_97814843_6b6a7dbb-5975-4b9a-8722-329f394436f5.jpg)
Sampha yn derbyn ei wobr yn y seremoni Gwobrau Mercury neithiwr
Mae David Wrench wedi gweithio gyda amryw o artistiaid Cymraeg gan gynnwys Yr Ods, Y Niwl, Gwyneth Glyn a Georgia Ruth.
Mae ei dad, Bob, yn adnabyddus hefyd fel hyfforddwr nifer o bencampwyr codi pwysau o Gymru. Enillodd Bob Wrench ei hun fedal efydd i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1974 cyn mynd yn ei flaen i sefydlu'r ganolfan codi pwysau lwyddiannus yng Nghaergybi.
Ar Instagram bore dydd Gwener 15 Medi fe anfonodd David Wrench neges i Sampha:
![sampha](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/961/cpsprodpb/1997/production/_97815560_5bdc2cd9-1348-4d58-9f93-a4c19050c6ba.jpg)