Astudiaeth i leihau ôl-troed carbon hanner marathon

  • Cyhoeddwyd
Hanner Marathon CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i 25,000 o redwyr gymryd rhan yn y digwyddiad ar 1 Hydref

Mae trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd yn ceisio lleihau ôl-troed carbon y digwyddiad gyda help gan arbenigwyr o brifysgol y ddinas.

Bydd Run 4 Wales a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal astudiaeth ar sut mae rhedwyr a gwylwyr yn teithio i'r digwyddiad eleni.

Y gobaith yw y bydd y canfyddiadau'n lleihau effaith amgylcheddol y ras yn y dyfodol.

Y digwyddiad yw'r ail hanner marathon mwyaf y DU, gyda disgwyl i 25,000 o redwyr gymryd rhan ar 1 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dr Andrea Collins o ysgol daearyddiaeth a chynllunio'r brifysgol, a'r Athro Max Munday o'r ysgol fusnes fydd yn arwain yr astudiaeth.

Fe fyddan nhw'n edrych yn bennaf ar y modd mae gwylwyr a rhedwyr yn teithio i'r digwyddiad, a faint o arian maen nhw'n ei wario yn y ddinas.

"Rydym wedi ymgymryd â sawl astudiaeth sydd wedi ystyried effaith amgylcheddol ac economaidd digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru ac mewn mannau eraill o'r DU," meddai Dr Collins.

Bydd y canlyniadau'n helpu canfod "ffyrdd y gellir annog rhedwyr a gwylwyr i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy".