Ffordd liniaru'r M4: Pryderon diogelwch am fan stopio

  • Cyhoeddwyd
M4 Sign

Mae disgwyl i'r ymchwiliad i ffordd liniaru'r M4 a fydd yn ailddechrau ddydd Mawrth glywed honiadau y gallai taith hwy i yrwyr heb fan stopio fod yn beryglus.

Bwriad Llywodraeth Cymru ydi cael ffordd newydd gwerth dros biliwn o bunnau rhwng Magwyr a Chas-bach, i leihau tagfeydd o amgylch twneli Brynglas.

Mae un cwmni yn honni y gallai'r cynllun, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y llywodraeth, olygu na fydd pobl yn stopio yng ngwasanethau Magwyr gan y bydd rhaid mynd allan o'r ffordd a gyrru 4.4 milltir ychwanegol i'w cyrraedd.

Os na fydd gyrwyr yn gwneud hyn byddan nhw'n gorfod teithio 49 milltir (rhwng gwasanaethau Pontprennau a Leigh Delamere) ac fe allai taith mor hir heb seibiant fod yn beryglus.

'Perygl'

Cwmni Roadchef - sy'n rhedeg gwasnaethau Magwyr - fydd yn dweud hyn mewn tystiolaeth i'r ymchwiliad, ac maen nhw'n poeni hefyd fod yna beryg y bydd y gwasnaethau yn cau gan arwain at golli 216 o swyddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid rhywfaint ar y cynlluniau gwreiddiol gan ystyried slipffordd ar gyffordd 23a. Fe fyddai hynny, medd cwmni Roadchef, yn sicrhau bod y gwasanaethau yn gwneud arian ond yn atal buddsoddiad pellach.

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph

Mewn datganiad ysgrifenedig i wrthbrofi'r honiadau dywedodd Llywodraeth Cymru mai cymhelliad masnachol yn hytrach na diogelwch sydd wrth wraidd honiadau cwmni Roadchef.

Ychwanegodd y datganiad: "Bydd modd i yrrwr call stopio yn ddiogel petai rhaid."