Dirwyo pobl am beidio cario offer i lanhau baw eu cŵn

  • Cyhoeddwyd
arwyddion cae ddol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Ddinbych eisioes wedi gosod arwyddion mewn rhai mannau yn rhybuddio perchnogion cŵn o'r rheolau newydd

Gall berchnogion cŵn sydd ddim yn cario offer digonol i lanhau baw eu hanifeiliaid wynebu dirwy yn Sir Ddinbych.

Mae Deddf Gwarchod Ardaloedd Cyhoeddus yn golygu y dylai perchnogion cŵn fod yn cario "mwy nag un neu ddau" o fagiau bach plastig.

Ni fydd pobl sy'n cerdded eu cŵn yn cael dirwy yn y fan a'r lle - fe fydd rhybudd yn cael ei roi ar yr achlysur cyntaf, ac fe fydd enw'r unigolyn yn cael ei roi ar fas data.

Petai'r person yn euog o'r drosedd ar ail achlysur, yna fe fydd yn rhaid iddyn nhw dalu dirwy.

'Dim byd gwaeth'

Bydd y rheolau yn dod i rym ddydd Mercher ar gyfer ardaloedd megis caeau chwarae plant, parciau pêl-droed a rygbi, a chanolfannau hamdden.

Fe fydd cyfyngiadau hefyd mewn ardaloedd megis y promenâd yn Y Rhyl ac ym Mhrestatyn.

Maen nhw'n rymoedd sydd wedi eu pasio i awdurdodau lleol ar draws Cymru fel rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, ond fe fydd cynghorau'n cael penderfynu dros eu hunain sut i'w gweithredu.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Steffan Parry mae "lleiafrif" o berchnogion cŵn yn difetha pethau ar gyfer y rheiny sydd yn defnyddio'r cae

Un sydd yn croesawu'r cam ydi Steffan Parry, sydd yn chwarae rygbi i dîm Rhuthun ac sy'n dweud fod y chwaraewyr yn aml yn gweld baw ci yn cael ei adael ar ôl ar eu cae.

"Does na'm byd gwaeth na bod wrthi'n ymarfer... a chodi a gweld baw ci arnom ni," meddai.

"Dwi'm yn meddwl fod pobl yn sylwi pa mor beryg ydi o, yn enwedig 'efo plant o bob oedran yn chwarae."

Ychwanegodd: "Mae o'n digwydd yn aml iawn ar y caeau yma i fod yn onest, felly 'swn i'n licio gweld rhywbeth yn cael ei 'neud am y peth.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dda iawn efo'u cŵn, ond mae'r lleiafrif yma'n 'neud difrod mawr i'r caeau, a'r lleiafrif yma sy'n gwneud hi'n anodd i ni gael chwarae."

'Afiach'

Un o chwaraewyr ieuenctid y clwb sydd hefyd wedi cael y profiad "afiach" o ddod ar draws baw ci ar y cae ymarfer yw Hannah Tudor, sydd yn 10 oed.

"Nes i gael fy nhaclo a wnaeth fy gumshield ddod allan," meddai.

"Ro'n i ar fin rhoi'r gumshield 'nôl yn fy ngheg ond roedd 'na faw ci ar y gumshield.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hannah Tudor brofiad "afiach" yn ystod un sesiwn ymarfer ar gae rygbi Rhuthun

"Dwi'n teimlo fel ddylsa pobl stopio jyst gadael o ar y llawr, a pigo fo fyny fel ddylsa nhw 'neud."

Ond yn ôl rhai pobl, nid pawb sydd yn glanhau ar ôl eu ci yn iawn hyd yn oed os ydyn nhw'n cario bagiau gyda nhw.

Mae rhai cerddwyr wedi bod yn cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn dod ar draws bobl yn rhoi baw eu cŵn mewn bagiau, ond yna'n ei adael ar ochr y llwybr neu yn ei hongian rywle, yn hytrach na'i daflu mewn bin.

Disgrifiad o’r llun,

Baw ci mewn bag gafodd ei weld ar draeth Llanussyllt yn ddiweddar

Dywedodd Martin Rogers ei fod wedi bod yn cerdded ar draeth Llanussyllt yn Sir Benfro yn ddiweddar pan ddaeth ar draws bag o faw ci oedd wedi ei adael ar garreg.

"Yn rhai mannau ti'n gweld bagiau yn hongian ar goed fel addurniad Nadolig," meddai.

Gweithredu

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud y bydd bagiau plastig pwrpasol ar gael am ddim o'u siopau Un Stop, er mwyn ceisio sicrhau fod perchnogion cŵn ddim yn torri'r rheolau newydd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod eisoes wedi cynnal ymgyrch dros y ddwy flynedd diwethaf i annog pobl i glirio ar ôl eu cŵn, a'u bod nawr yn trio rhywbeth gwahanol.

"Mae'r gorchymyn yma'n rhoi statws penodol - bydd 'na arwyddion yn mynd fyny ar draws y sir i rybuddio, bydd y neges yna'n hollol weledol," meddai Gareth Watson.

"Mae cymunedau Sir Ddinbych wedi d'eud wrthym ni dro ar ôl tro eu bod nhw eisiau gweithredu ar y mater yma, a dyna 'dan ni'n 'neud.

"Gall y peth hyd yn oed arwain at y llys os ydyn nhw'n gwrthod talu, ond dyna ydi'r cam olaf. 'Dan ni eisiau pobl i glirio ar eu holau yn y lle cyntaf."