'Niwed sylweddol' i enw da Llenyddiaeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae enw da Llenyddiaeth Cymru wedi ei ddifrodi'n "sylweddol" gan adroddiad damniol gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cadeirydd y corff.
Roedd adolygiad yr Athro Medwin Hughes ar y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru yn argymell trosglwyddo llawer o gyfrifoldebau, dolen allanol Llenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ym mis Mehefin ei fod yn tueddu i feddwl y byddai'n derbyn yr argymhellion.
Ond beirniadu'r adroddiad wnaeth Llenyddiaeth Cymru gan ddweud ei fod yn "dda i ddim".
Mae'r awdur Philip Pullman hefyd wedi dweud bod toriadau arfaethedig yn mynd yn groes i'r graen, dolen allanol.
Sylwadau 'ymfflamychol'
Wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, dywedodd Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Damian Walford Davies bod enw da'r corff wedi ei effeithio.
Dywedodd bod "niwed sylweddol wedi bod i'w enw da dros yr haf", ond ychwanegodd fod y sefydliad yn parhau yn un "cadarn iawn".
Dywedodd y prif weithredwr, Lleucu Siencyn fod noddwr posib ar gyfer gwobrau Llyfr y Flwyddyn wedi tynnu'n ôl pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi.
"Pan gafodd yr adroddiad yma ei gyhoeddi roedden ni mewn trafodaethau gyda noddwr masnachol arwyddocaol ar gyfer Llyfr y Flwyddyn ond wnaeth y trafodaethau hynny ddim datblygu."
Ychwanegodd bod yr asesiad o waith Llenyddiaeth Cymru yn "sioc" iddi.
Dywedodd: "Mae dyfnder y sylwadau ymfflamychol ynglŷn â Llenyddiaeth Cymru wrth ystyried y gwaith penodol yma yn hollol arswydus."
Dywedodd yr Athro Davies fod y casgliadau yn "gwneud eilun o fodel canol oesol sydd wedi dyddio o lenyddiaeth" a bod ganddo "syniadaeth ganol oesol o'r llyfr".
'Ddim eisiau bod yn gyfrifol'
Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Llyfrau Cymru hefyd yn ateb cwestiynau gan Aelodau Cynulliad.
Dywedodd y cadeirydd, yr Athro M Wynn Thomas fod y cyngor wedi cael "profiad hollol ffafriol" wrth gyfarfod y panel adolygu a bod y broses yn "drylwyr iawn".
Gofynnwyd iddo a fyddai'r cyngor yn fodlon cymryd cyfrifoldebau ychwanegol gan gynnwys bod yn gyfrifol am wobrau Llyfr y Flwyddyn.
Ei safbwynt oedd bod Llenyddiaeth Cymru wedi "straffaglu" gyda gwobr Llyfr y Flwyddyn, a bod anfodlonrwydd gyda'r modd y mae'r digwyddiad wedi ei redeg.
Ond dywedodd bod Cyngor Llyfrau Cymru "ddim eisiau bod yn gyfrifol am y wobr" am nad oedden nhw eisiau'r risg o "barhau gyda'r anfodlonrwydd".
Er hynny, fe fydden nhw yn cymryd y cyfrifoldeb os byddai'r argymhellion yn cael eu gweithredu meddai.
Yn ôl prif weithredwr y cyngor, Helgard Krause, byddai'r staff yn medru cyflawni unrhyw gyfrifoldebau newydd fyddai'n cael eu pasio atynt gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn.
Cafodd Ms Krause ei phenodi i'r swydd ym mis Hydref 2016 a dywedodd bod y feirniadaeth yn yr adolygiad ar y cyfan yn deg, "ond bod rhai yn hollol wallgof".
Ystyried ymatebion
Mae Mr Skates ar hyn o bryd yn ystyried unrhyw sylwadau gan gyrff sydd wedi eu heffeithio gan yr adolygiad, cyn penderfynu a fydd yn gweithredu'r argymhellion.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn "ystod o safbwyntiau" gan wahanol gyrff ac unigolion ers cyhoeddi'r adroddiad ar 13 Mehefin.
"Mae'r panel wedi bod yn ystyried y sylwadau sydd wedi eu derbyn a bydd yn ymateb i'r Ysgrifennydd Cabinet cyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei ymateb ffurfiol," meddai'r llefarydd.
"Mae llawer o waith eto i'w wneud i weithredu'r weledigaeth o gefnogaeth gryfach rydyn ni i gyd eisiau ei weld ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at weithio'n agos â'r holl hapddalwyr allweddol wrth i ni symud ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2017