Adolygiad Llenyddiaeth Cymru yn 'hollol anghywir'
Mae cadeirydd Llenyddiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi'u "cythruddo" gan adolygiad annibynnol o'r corff, sy'n llawn "camgymeriadau".
Roedd yr adolygiad a gyhoeddwyd fis diwethaf wedi argymell lleihau cyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru, ac mae'r ddogfen yn feirniadol iawn am reolaeth a llywodraethu'r corff.
Ond mae'r Athro Damian Walford Davies yn dweud bod casgliadau'r adolygiad yn "hollol anghywir", a'u bod wedi syfrdanu staff Llenyddiaeth Cymru.
Nid oedd cadeirydd yr adolygiad am ymateb i'r sylwadau.