Gwasanaethau pediatrig yn wynebu argyfwng

  • Cyhoeddwyd
Dr Vas Falcao
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbryd staff ar ei isaf, medd Dr Vas Falcao

Mae gwasanaethau iechyd plant yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yn wynebu argyfwng os na fydd problemau recriwtio yn cael eu datrys, medd meddyg sydd newydd ymddeol.

Roedd Dr Vas Falcao yn ymgynghorydd pediatrig yn Sir Benfro am 22 o flynyddoedd ond fe ymddeolodd yn gynnar wedi i nifer o wasanaethau gael eu canoli.

Dywedodd bod ysbryd staff ar ei isaf a bod meddygon yn chwilio am waith mewn llefydd eraill.

Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi dweud bod recriwtio wedi gwella.

Llynedd methiant fu ymdrech ymgyrch recriwtio i ddenu meddygon ymgynghorol i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ac y mae ysbytai Llwynhelyg yn Hwlffordd a Glangwili yng Nghaerfyrddin yn hysbysebu am chwech ymgynghorydd pediatrig.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i uned bediatrig ysbyty Llwynhelyg ostwng ei horiau agor y llynedd oherwydd prinder staff

Dywedodd Dr Falcao ei fod wrth ei fodd yn ei swydd a'i fod yn gweithio gyda "chydweithwyr rhagorol" ond erbyn diwedd ei yrfa roedd yn teimlo nad oedd neb yn gwrando arno ac nad oedd unrhyw werth i'w brofiad.

Roedd e'n un a fu'n cefnogi y protestwyr oedd am gadw gofal pediatrig 24 awr yn Ysbyty Llwynhelyg - ond bu eu brwydr yn aflwyddiannus.

"Dwin deall bod newidiadau wedi cael eu gwneud ond byddai wedi bod yn braf cyfrannu iddynt," meddai.

Dywedodd Dr Falcao fod "penderfyniadau bellach yn cael eu gwneud gan unigolion neu grwpiau bach yn hytrach nag ar y cyd gan uwch-feddygon".

Rhybuddiodd y gallai'r gwasanaeth cyfan fod yn y fantol os nad yw problemau denu staff i'r ysbytai yn cael eu datrys ac mae'n bosib y byddai'n rhaid i blant deithio mor bell ag Abertawe.

Mae mam i blentyn gafodd ei eni saith wythnos yn gynnar yn Llwynhelyg ac sydd ag anhwylder ar ei aren ac yn araf yn datblygu, yn dweud ei bod hi yn hapus gyda'r gofal a gafodd yn yr ysbyty tan y prinder staff oedd yn golygu nad oedd ei mab bellach o dan law arbenigwr pediatrig.

Mae hi bellach yn mynd i weld meddyg teulu gan ei fod yn gynt "na disgwyl ateb gan Llwynhelyg".

Ychwanegodd ei bod wedi ystyried symud ei theulu i fyw y tu allan i Gymru er mwyn byw yn nes at "wasanaethau gwell".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Kloer yn dweud bod recriwtio wedi gwella

Mae Phil Kloer, cyfarwyddwr meddygol bwrdd iechyd Hywel Dda yn cyfaddef bod yna wasgfa ond bod recriwtio wedi gwella.

"Mae pethau'n well nag y buon nhw er bod y sefyllfa yn heriol o hyd."