Protestio am brinder staff meddygol yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa Wrecsam

Mae cleifion o feddygfeydd teulu yn Wrecsam wedi bod yn protestio y tu allan i gyfarfod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i gwyno am lefelau staffio yn yr ardal.

Fe gafodd y brotest ei threfnu gan aelodau o feddygfa Pen-y-Maes sydd dan oruchwyliaeth Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd o ganlyniad i'r broblem o fethu â recriwtio meddygon teulu yng ngogledd Cymru

Mae'r cleifion yn dweud bod gorfod dibynnu ar ddoctoriaid llanw yn golygu fod lefelau staffio yn amrywio'n ddyddiol.

Yn ôl Gwenfair Jones, sy'n gynghorydd gorllewin Gwersyllt, mae cleifion yn pryderu am y gwasanaeth maen nhw yn ei dderbyn.

Disgrifiad,

Mae Gwenfair Jones yn gynghorydd yn ardal Gorllewin Gwersyllt yn Wrecsam

"Weithiau mae tri neu bedwar meddyg ac ar ddyddiau eraill does dim un," meddai Ms Jones.

Ychwanegodd: "Mae'n broblem fawr, nid yn unig yng Ngwersyllt, a gyda mwy o feddygfeydd yn cael eu cymryd drosodd gan Betsi Cadwaladr, mi fydd yn effeithio 30,000 o gleifion yn ardal Wrecsam."

'Trio 72 o weithiau'

Mae Jane Conroy yn glaf ym meddygfa Pen-y-Maes a dywedodd ei bod hi'n pryderu am yr anhawster o geisio cael apwyntiad yn yno.

"Fe wnes drio 72 o weithiau'r diwrnod o'r blaen. Fe gefais un yn y diwedd, ond pan nad ydych yn teimlo'n dda dyna'r peth diwethaf yr ydych eisiau i ddigwydd," meddai.

Dywedodd Prif Weithredwr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr Gary Doherty eu bod yn cymryd camau i wella'r sefyllfa staffio.

"Roeddwn yn falch iawn i gael cyfarfod y cleifion y bore 'ma a chael y cyfle i glywed eu pryderon.

"Dwi'n gwerthfawrogi nad ydyn wedi gallu cynnig y gwasanaethau yr ydym eisiau ei gynnig yn enwedig yn nhermau argaeledd meddygon teulu ac mae'n amlwg yn pryderu pobl.

"Rydym yn cymryd camau i wella staffio yn y feddygfa, fel cyflogi nyrs a gweithiwr iechyd ac yn cyfweld Uwch-ymarferydd Nyrsio.

"Nes y byddwn yn gallu cyflogi meddyg yn barhaol fe fyddwn yn parhau i ddefnyddio meddygon llanw er mwyn sicrhau fod pobl yn derbyn y gwasanaeth maen nhw yn ei ddisgwyl ac yn haeddu," meddai.