Pwy 'di'r Taid neu Nain?
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddydd i chi nain/mam-gu a taid/tad-cu heddiw! Amser i eistedd mewn cadair gyfforddus, yn eich slipars, gyda phaned a bisged feddal.
Ydych chi'n 'nabod pwy ydy perthnasau adnabyddus yr enwogion yma?

Roedd llais Elin Cain i'w glywed ar Radio Cymru Mwy y llynedd - ond ydych chi'n meddwl bod ei wyneb hi 'Run Sbit ag un ei nain siaradus?


Gall nifer o blant Cymru ddiolch i daid yr actores Mari Emlyn am y cyfle i ymweld â Llangrannog neu Glan Llyn a chael cystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd


Mae DJ Elan Evans yn troelli disgiau fel ei hewythr sbectolog, ond ydy hi hefyd wedi etifeddu dawn sgrifennu ei thad-cu?


Mae talent yn amlwg Yn y Gwaed - ond ar gae pêl-droed oedd Owain Tudur Jones yn serennu, tra fod ei daid yn fwy cyfforddus â beiro yn ei law


Er mai o Loegr oedd nain Marged, Elan a Gwilym o'r band Plu, sefydlodd un o'r cymdeithasau pwysicaf i ferched Cymru


Oedd mam-gu Lowri wedi gweld yn y sêr ei bod hi am ymddangos yn y gyfres Gwaith/Cartref rhyw ddydd?


Mae'r tân ym mol Ian Gwyn Hughes, a'i gariad tuag at y wlad yn amlwg wedi cael ei basio i lawr iddo gan ei daid