'Lwcus i fod yn fyw' ar ôl i gar daro tŷ ym Mhwllheli
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Bwllheli yng Ngwynedd yn dweud fod ei bartner yn lwcus i fod yn fyw ar ôl i gar daro yn erbyn tŷ a chwalu'r ystafell ymolchi.
Dywedodd Danny Jones fod ei bartner Abbey Claybrook wedi bod yn yr ystafell eiliadau cyn y gwrthdrawiad.
Roedd eu babi 15 mis oed hefyd yn y tŷ ar y pryd.
"Pe bai o wedi digwydd pum eiliad yn gynt byddai Abbey wedi ei lladd a bydda fy mhlentyn wedi colli ei fam," meddai Mr Jones.
"Roedd o'n hunlle', fel rhywbeth allan o ffilm."
Bydd y teulu yn gadael eu tŷ yn ardal Cesail y Bryn am y tro ac yn symud i gartref dros dro er mwyn gwaith atgyweirio'r difrod.