'Myfyrwyr yn cymryd benthyciadau i osgoi llety gwael'
- Cyhoeddwyd
Mae corff sy'n cynrychioli myfyrwyr yn dweud fod rhai yn cymryd benthyciadau byrdymor i fyw mewn fflatiau moethus er mwyn osgoi llety gwael.
Ers mis Ionawr mae cynlluniau wedi'u cyflwyno i adeiladu tua 3,500 o ystafelloedd myfyrwyr newydd yn Abertawe a Chaerdydd.
Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) bod llawer yn ei chael hi'n anodd talu rhenti uchel mewn ymgais i beidio â byw mewn tai o safon is.
Yn ôl yr ymgynghorydd eiddo, David Feeney, dyw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ddim yn sylweddoli difrifoldeb eu dyled.
1,700 o ystafelloedd
Yn 2017-18 yn unig bydd tua 1,700 o ystafelloedd myfyrwyr newydd yn agor yng Nghaerdydd, gyda'r mwyafrif yn fflatiau stiwdio mewn adeiladau uchel yng nghanol y ddinas, gan gynnwys tua 450 o ystafelloedd yn yr adeilad talaf yng Nghymru ger siop John Lewis.
Mae fflat stiwdio yn natblygiad Fusion ar Heol Casnewydd, gyda sinema, ystafell fwyta preifat a champfa, yn costio £177.50 yr wythnos - neu tua £9,000 y flwyddyn - tra gall ystafell tŷ traddodiadol i fyfyrwyr gostio llai na £50 yr wythnos.
Dywedodd Cerith Rhys-Jones o NUS Cymru nad oes llawer o fyfyrwyr yn gallu fforddio llety moethus, a'u bod yn aml yn cael eu gorfodi i fyw mewn eiddo gyda llygod mawr a lleithder.
Er bod landlordiaid yn ddarostyngedig i reolau Llywodraeth Cymru - o dan gynllun Rhentu Doeth Cymru - a bod safonau'n gwella, dywedodd bod nifer enfawr yn gorfod "syrffio soffas" neu ddibynnu ar rieni am help.
"Nid nifer bychan o fyfyrwyr sy'n gwneud ceisiadau am gardiau credyd a benthyciadau byr dymor ac yn mynd i drafferthion ariannol dros bob math o bethau, gan gynnwys llety," meddai.
"Mae myfyrwyr yn dymuno cael tai addas.
"Fe fydd 'na rai sydd â'r arian i edrych ar y datblygiadau newydd 'ma yng Nghaerdydd, ond mae yna lawer o bobl yn cael trafferth i ddod o hyd i'r arian, ac sydd ond angen cartref y gallant fforddio byw ynddo."
'Cyrraedd y safon'
Ychwanegodd Mr Rhys-Jones fod llawer o fyfyrwyr wedi cychwyn yn y brifysgol heb unrhyw syniad sut i gyllidebu, a bod angen dysgu'r sgil mewn ysgolion.
"Mae angen i bob llety gyrraedd y safon, yn hytrach na bod un ai yn wael neu'n ddrud a moethus."
Er bod dwsinau o geisiadau yn gweithio eu ffordd trwy'r system gynllunio, dywedodd Mr Feeney bod angen o leiaf 5,000 yn rhagor o ystafelloedd yng Nghaerdydd i ddelio â'r cynnydd mewn galw.
"Mae miloedd o fyfyrwyr yn byw mewn Tai Amlfeddiannaeth fyddai o bosib yn fodlon symud i le gwell pe bai'r pris yn iawn," meddai.
"Mae'r genhedlaeth yma yn uchelgeisiol, ond mae gwahaniaeth mawr rhwng y tâl sy'n cael ei godi a'r hyn y gallan nhw fforddio."