Leanne Wood: 'Amhosib' gweithio gyda Neil McEvoy

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy a Leanne Wood

Mae hi'n "amhosib" gweithio gyda Neil McEvoy yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Fe wnaeth Ms Wood amddiffyn y penderfyniad i'w wahardd o grŵp y blaid yn y Cynulliad mewn e-bost i aelod o'r blaid oedd wedi gwneud cwyn.

Dywedodd bod Mr McEvoy yn wynebu "honiadau pellach o fwlio" ac y byddai materion eraill yn "dod i'r amlwg".

Dywedodd Mr McEvoy, gafodd ei wahardd o grŵp y blaid ddydd Mawrth, nad oedd am ymgymryd ag ymosodiadau personol ar neb, a'u bod yn "tynnu sylw o'r gwir broblemau".

'Unfrydol'

Cafodd AC Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru ei wahardd wedi iddo ddatgan ei fod yn gwrthwynebu'r ffaith bod Plaid Cymru yn cefnogi diddymu hawliau tenantiaid i brynu tai cymdeithasol.

Dyma yw'r ail waith i Mr McEvoy gael ei wahardd o'r grŵp yn y Cynulliad eleni.

Mae'n parhau i weithio fel AC, ond fel aelod annibynnol i bob pwrpas.

Yn yr e-bost, gafodd ei yrru mewn ymateb i aelod o'r blaid oedd wedi gwneud cwyn am y gwaharddiad, dywedodd Ms Wood bod "proses wedi dechrau ac mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallaf ddweud neu ysgrifennu ar hyn o bryd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil McEvoy wedi cael ei wahardd o grŵp y blaid yn y Cynulliad ddwywaith eleni

Fe wnaeth Ms Wood gadarnhau bod Mr McEvoy wedi'i wahardd am dorri cod ymddygiad gafodd ei gyflwyno ar ôl ei waharddiad diwethaf.

"Does gan hyn ddim o gwbl i'w wneud ag unrhyw beth ddywedodd Neil am [gwmni ymgynghori] Deryn na'r hyn mae'n ei ddweud am faterion gwleidyddol eraill," meddai.

"Mae ei gymeriad a'i ymddygiad wedi ei gwneud yn amhosib i'n grŵp weithio gydag ef.

"Cafodd y penderfyniad i'w wahardd ei wneud gan y grŵp, ac fe gafodd ei wneud yn unfrydol."

'Gofyn cwestiynau anodd'

Mewn ymateb, dywedodd Mr McEvoy nad yw'n "ymgymryd ag ymosodiadau personol sy'n tynnu sylw o'r gwir broblemau".

"Cefais fy ethol gan bobl Canol De Cymru i wneud swydd," meddai.

"Rydw i yma i ddal y llywodraeth yn atebol a gofyn cwestiynau anodd.

"Fel aelod ffyddlon o Blaid Cymru, bydd y cyhoedd ac aelodau'n gwybod fy mod i wastad wedi cefnogi Leanne Wood yn gyhoeddus."