Achub pedwar oddi ar gwch hwylio 75 troedfedd ym Moelfre

  • Cyhoeddwyd
Bad achub Moelfre
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI fod y llong "wedi mynd yn sownd cyn i ddŵr ddechrau llifo mewn"

Mae Gwylwyr y Glannau ar Ynys Môn wedi cadarnhau eu bod wedi achub pedwar person oddi ar gwch hwylio ym Moelfre.

Fe gafodd criwiau achub o Foelfre a Biwmares eu galw i adroddiadau fod cwch hwylio 75 troedfedd o hyd wedi mynd i drafferthion ar hen fan glanio'r bad achub yn y môr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI fod y cwch "wedi mynd yn sownd cyn i ddŵr ddechrau llifo mewn."

Fe gafodd y pedwar person oedd ar ei bwrdd eu hachub ac mae'r cwch bellach ar ei ffordd i Fiwmares er mwyn cael ei thrwsio.