Y Gynghrair Genedlaethol: Tranmere 0-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Sam WedgburyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Sam Wedgbury ei yrru o'r maes ar ôl 13 munud o'r gêm i Wrecsam

Fe wnaeth gôl gan Chris Holroyd sicrhau buddugoliaeth gampus i Wrecsam oddi cartref yn Tranmere.

Roedd yn rhaid i Wrecsam chwarae rhan helaeth o'r gêm gyda 10 dyn, wedi i Sam Wedgbury gael ei yrru o'r maes am dderbyn dau gerdyn melyn o fewn 13 munud agoriadol y gêm.

Fe wnaeth Wrecsam yn dda i beidio ildio cyn hanner amser ac wedi 58 munud roedden nhw ar y blaen diolch i ergyd gan Holroyd.

Er i 10 munud o amser ychwanegol gael ei chwarae ar ddiwedd y gêm yn dilyn digwyddiad meddygol yn y dorf, fe wnaeth Wrecsam ddal ymlaen i ennill y gêm.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Wrecsam yn codi i'r pumed safle yn nhabl Cynghrair Cenedlaethol Lloegr.