Yr arlunydd Aneurin Jones wedi marw yn 87 oed
- Cyhoeddwyd
Cofio'r arlunydd Aneurin Jones o Aberteifi
Bu farw'r arlunydd Aneurin Jones o Aberteifi yn 87 oed.
Yn wreiddiol o ardal Cwm Wysg, fe aeth Aneurin Jones ymlaen i astudio Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe o 1950 hyd at 1955.
Gweithiodd fel athro celf a bu'n bennaeth celf yn Ysgol y Preseli, Crymych, hyd nes 1986.
Fe dderbyniodd wobr am ei wasanaeth i'r celfyddydau gan sefydliad y Roteri Rhyngwladol yn 1978, ac fe dderbyniodd y brif wobr gelf yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1981.

Roedd gwaith Aneurin Jones yn aml yn adlewyrchu bywyd gwledig
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Yn fab i deulu amaethyddol, roedd ei waith yn aml yn adlewyrchu bywyd cefn gwlad Cymru, gan ganolbwyntio ar ffermwyr a cheffylau Cymreig.
Cafodd ei waith, yn cynnwys lluniau o Gobiau Cymreig, ei gyflwyno i'r Tywysog Charles mewn digwyddiad yn y Sioe Frenhinol.
Mae rhai o'i weithiau mewn casgliadau cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Ceredigion ac Amgueddfa Celf Fodern Cymru ym Machynlleth.
Mae ei fab, Meirion Jones hefyd yn artist adnabyddus.
'Cyfraniad enfawr'
Ar Twitter, dywedodd Llywydd y Cynulliad ac AC Ceredigion, Elin Jones, bod Aneurin Jones yn "artist a adlewyrchodd ei fro yn ei gelf, gyda chymeriadau cefn gwlad yn dod yn fyw yn ei waith".
Ychwanegodd ei fod wedi gwneud "cyfraniad enfawr i'r celfyddydau".
Dywedodd hefyd ei fod yn "un o artistiaid mawr ein gwlad" oedd yn "caru ei gymuned a'i bobl" a "hynny yn llewyrchu drwy ei waith".